Mae diddanwr plant wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl pledio’n euog i droseddau yn ymwneud a delweddau o gam-drin plant a chyffuriau.

Fe fydd y consuriwr Mark Whincup, o Landrillo-yn-Rhos yng Nghonwy, sy’n cael ei adnabod fel “Magic Mark”, hefyd yn gorfod cofrestru fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd.

Roedd Whincup, 50 oed, wedi pledio’n euog i 20 o gyhuddiadau yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis diwethaf.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod ymddygiad Whincup wedi golygu ei fod wedi colli ei yrfa a’i enw da.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr bod un o’r fideos ,yn ymwneud a babi 12 mis oed, yn “hynod o ofidus.”

Mewn gwrandawiad blaenorol roedd Whincup wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o ddosbarthu delweddau anweddus o blentyn, naw chyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant, un o fod a 117 o ddelweddau anweddus yn ei feddiant ac un cyhuddiad o feddu ar 743 o ddelweddau fideo anweddus.

Roedd hefyd wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o feddu delweddau eithafol o weithredoedd rhyw a thri chyhuddiad o gyflenwi’r cyffur dosbarth A, methamphetamine, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel crystal meth.

Roedd y troseddau i gyd wedi digwydd rhwng mis Ionawr 2012 a mis Gorffennaf 2014.