Wigley - o blaid y Gwyrddion yn Lloegr
Ifan Morgan Jones sy’n holi pam bod Plaid Cymru yn hybu’r Gwyrddion…

Gyda llai na 100 diwrnod i fynd nes yr Etholiad Cyffredinol, mae Plaid Cymru wedi mabwysiadu polisi digon rhyfedd, sef bachu bob cyfle i hybu un o’u cystadleuwyr.

Mae Dafydd Wigley wedi bod yn y Guardian a’r Western Mail yn galw ar bleidleiswyr yn Lloegr i gefnogi’r Gwyrddion.

Ac mae posteri wedi ymddangos ar Facebook, dan faner Plaid Cymru, yn annog pobl i bleidleisio dros y Gwyrddion yn Lloegr a’r SNP yn yr Alban.

Does dim problem gyda chefnogi’r SNP, am nad ydynt yn sefyll yng Nghymru. Ond mae rhoi hwb o’r math yma i’r Gwyrddion ychydig yn fwy problemus.

Yn oes y we fyd eang, nid oes modd ‘targedu’ neges o’r fath dros y ffin. Bydd llawer o Gymry hefyd yn gweld y sylw cadarnhaol y mae’r Gwyrddion yn ei dderbyn.

Ymgyrch ‘gwrth-lymder ariannol’ a ‘gwrth-Trident’ ar y cyd yw hwn rhwng Plaid Cymru, yr SNP, a’r Gwyrddion, yw hwn mae’n debyg. Yr unig broblem yw nad yw’n ymgyrch ar y cyd, oherwydd mai Gwyrddion Cymru a Lloegr yw’r rheini mae’r Blaid yn eu hybu. Maent yn sefyll yn erbyn y Blaid.

Y peryg o safbwynt y Blaid yw y bydd yr uniad hwn yn hollti’r bleidlais ‘gwrth-lymder’ yng Nghymru yn hytrach na’i atgyfnerthu, ac y byddan nhw’n colli tir ar adeg lle mae pleidiau radicalaidd llai eraill yn ei ennill.

Un o brif dargedau Plaid Cymru eleni yw Ceredigion. Ryw 600 pleidlais yn unig fachodd y Gwyrddion yno yn 2010. Ond os ydyn nhw’n gweld ymchwydd mewn cefnogaeth yng Nghymru, fel y gwelir ar draws weddill y Deyrnas Unedig, fe allai hynny gymryd talp difrifol allan o gefnogaeth Plaid Cymru.

Yr union fath o bobl a fyddai yn cefnogi  y Blaid Werdd mewn egwyddor a fyddai yn rhoi tic ym mlwch Plaid Cymru gan demlo fod ganddynt well obaith o gipio’r sedd.

Pan enillodd Plaid Cymru yng Ngheredigion yn 1992, gwnaethant hynny gyda chefnogaeth y Blaid Werdd.

Pan gollodd Plaid Cymru yn 2005, safodd y Gwyrddion eto gan gymryd 846 pleidlais – mwy na’r gwahaniaeth rhwng y Blaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol buddugol.

Gellid dadlau wrth gwrs bod y Gwyrddion yn hybu Plaid Cymru a’r SNP yn ogystal drwy ymuno yn yr ymgyrch ‘gwrth-lymder’ hwn. Ond er fy mod i’n dilyn sawl un o gyfrifon y Gwyrddion ar Twitter a Facebook, nid ydwyf eto wedi gweld unrhyw son am Blaid Cymru arnynt – tra bod Plaid Cymru yn chwythu utgorn y Gwyrddion mor uchel fel bod y wasg genedlaethol wedi cymryd sylw.

Dyma uniad sydd o fudd mawr i’r Gwyrddion, ac yn hwb iddynt fachu troedle mewn seddi fel Ceredigion, lle na all eu cefnogaeth syrthio llawer ymhellach.

Sut y mae’r Blaid yn elwa, dydw i ddim yn siwr.