Yr Athro Sally Holland
Daeth cadarnhad y bore yma mai’r Athro Sally Holland yw’r Comisiynydd Plant newydd.

Cafodd ei phenodiad ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, ac fe fydd yr Athro Holland yn olynu Keith Towler.

Pwrpas y rôl yw bod yn llais annibynnol dros blant a phobol ifanc.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu terfyn ar gyfnod o ansicrwydd ac oedi, wrth i Keith Towler adael ei swydd ddiwedd y mis yma ar ôl saith mlynedd wrth y llyw.

Yr Athro Sally Holland

Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yw Sally Holland, ac mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr a sylfaenydd Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE).

Mae hi’n enw adnabyddus ar draws y byd ac mae ei harbenigedd yn cynnwys hawliau plant, safbwyntiau plant Cymru am ddinasyddiaeth a hunaniaeth, plant sy’n derbyn gofal, amddiffyn plant a mabwysiadu.

Bu hefyd yn ymgyrchydd dros anghenion a hawliau plant, gan gwblhau gwaith ymchwil yn y maes.

Pobol ifanc a phanel trawsbleidiol wnaeth y penodiad yn dilyn cyfweliadau.

Y Dirprwy Gomisiynydd Plant, Eleri Thomas fydd wrth y llyw tan i’r Athro Holland ddechrau ar ei gwaith ym mis Ebrill.

‘Llysgennad cryf’

Yn dilyn y penodiad, dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths: “Fel Llywodraeth, rydym am sicrhau bod Cymru yn lle ble y mae hawliau plant yn cael eu cydnabod, a ble y mae lleisiau plant yn cael eu clywed yn glir.

“Dwi’n falch iawn y bydd yr Athro Sally Holland yn ei swydd fel Comisiynydd Plant nesaf Cymru, ac rwy’n ei chroesawu’n gynnes i’r swydd bwysig hon.

“Rwy’n  hyderus y bydd ei hystod o brofiad o waith cymdeithasol a hawliau plant, ei hymrwymiad amlwg i rymuso plant a phobl ifanc, yn ei gwneud yn llysgennad cryf ar eu rhan.

“Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i Keith Towler, y Comisiynydd presennol, am ei ymrwymiad a’i lwyddiannau yn ystod ei gyfnod o saith mlynedd.”

‘Anrhydedd’

Dywedodd y Comisiynydd newydd: “Dwi’n falch iawn ac mae’n anrhydedd imi fod wedi cael fy mhenodi yn Gomisiynydd Plant nesaf Cymru.  Rwy’n falch o hanes Cymru o hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc a byddaf yn gweithio’n galed i sicrhau bod hyn yn parhau ac yn cryfhau, gan adeiladu ar waith rhagorol y ddau gomisiynydd cyntaf.

“Mae plant a phobl ifanc yn wynebu cyfleoedd a heriau newydd yn y gymdeithas gyfoes.  Byddaf yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc Cymru i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu diogelu a’u hyrwyddo.”