Mae ci a ddiflannodd yn Ynys Môn wedi cael ei ddarganfod wedi boddi yn y Fenai.

Talodd y perchennog, Janice Bannister, £750 am hofrennydd i chwilio am Sylvia, ci o frîd Shiba Inu, ar ôl iddo ddiflannu o draeth Niwbwrch wythnos yn ôl.

Cafodd Sylvia ei darganfod wedi boddi yn y Fenai ger Caernarfon.

Daeth pobol o bob cwr o wledydd Prydain i ogledd Cymru i chwilio am yr anifail yn dilyn apêl ar wefannau cymdeithasol.

Diolchodd Janice Bannister i bawb oedd wedi helpu i chwilio amdani.