Mae’r cyfnod ceisiadau wedi agor heddiw i geisio canfod 12 artist cerddorol newydd ar gyfer yr ail flwyddyn o brosiect Gorwelion.

Y llynedd oedd y tro cyntaf i’r prosiect gael ei redeg gan BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi talent newydd yn y sin cerddorol.

Ac fe fydd Gorwelion yn edrych am 12 artist unwaith eto sydd â “photensial i dorri tir newydd yng Nghymru a thu hwnt” ac sydd heb arwyddo i label recordio hyd yn hyn.

Cyfle i berfformio

Y llynedd roedd y rhestr o fandiau a chantorion Cymraeg gafodd nawdd gan Gorwelion yn cynnwys Candelas, Sŵnami, Casi Wyn, Kizzy Crawford, Plu a Chris Jones.

Diolch i’r cynllun fe gafodd yr artistiaid gyfleoedd i chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol ar draws Cymru, Prydain a thu hwnt, yn ogystal â chael sesiwn recordio yn stiwdios Maida Vale.

Bydd y 12 artist sydd yn cael eu dewis eleni yn cael y cyfle i fanteisio ar yr un profiadau, fydd hefyd yn cynnwys cael defnydd o offer hyrwyddo a manteisio ar gynllun mentora.

Mae’n rhaid i unrhyw gerddorion a grwpiau sydd am gael eu hystyried ar gyfer Gorwelion eleni ddanfon recordiad o’u gwaith gwreiddiol, llun a bywgraffiad byr, cyn i’r 12 gael eu dewis gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth radio.

“Yn ei flwyddyn gyntaf, mae cynllun Gorwelion wedi cael effaith sylweddol,” meddai Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda BBC Cymru ar ein gweledigaeth i ddatblygu’r gerddoriaeth newydd gorau yng Nghymru.”

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 9 Chwefror, gyda’r 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 6 Ebrill ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar wefan www.bbc.co.uk/gorwelion.