Cyngor Sir Benfro
Bydd cynghorwyr yn trafod cais cynllunio i adeiladu siopau a fflatiau ar hen safle ysgol gynradd Arberth yn Sir Benfro heddiw.

Mae’r cais sydd ger bron y cyngor cynllunio’n cynnwys dymchwel adeiladau’r hen ysgol er mwyn ei ddisodli gydag adeilad dau lawr.

Bydd yr adeilad yn gartref i siop Sainsbury’s Local, siop fetio, gofod siopau, caffi, tecawê a meithrinfa blant.

Ar lawr cyntaf yr adeilad, mae’r datblygwyr eisiau rhoi 20 o fflatiau gydag un a dwy ystafell wely. Byddai isafswm o 14 o’r fflatiau yn dai fforddiadwy i’w rhentu a byddan nhw’n cael eu rheoli gan Gymdeithas Tai Sir Benfro.

Ond mae trigolion lleol wedi bod yn brwydro yn erbyn y cynllun gyda nifer yn cwyno nad oes ymgynghoriad wedi bod.

Mae Siambr Fasnach Arberth hefyd wedi lleisio pryderon gan gynnwys nad oes asesiad o beth fydd effaith y dyblygiad newydd ar siopau lleol.

Mae swyddogion cynllunio’r cyngor eisoes wedi argymell y dylai’r cais gael ei gymeradwyo.