Elin Jones AC
Mae disgwyl i AC Ceredigion Elin Jones holi’r Prif Weinidog Carwyn Jones ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â thrwyddedau gyrru gyda baner Jac yr Undeb arnynt.

Ym mis Rhagfyr llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain gynlluniau i gyflwyno’r faner ar drwyddedau gyrru, ond erbyn hyn mae dros 6,000 o bobl wedi llofnodi deiseb i wrthwynebu hynny.

Mae nifer o wleidyddion Plaid Cymru hefyd wedi gwrthwynebu’r syniad, ac mae disgwyl y bydd Elin Jones yn gofyn yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog heddiw a yw Llywodraeth Cymru wedi trafod y mater â San Steffan.

‘Sarhad’

Dywedodd Llywodraeth Prydain y byddai Jac yr Undeb ar y trwyddedau gyrru yn atgyfnerthu ‘hunaniaeth’ Brydeinig – ond maen nhw eisoes wedi cadarnhau na fydd y faner yn cael ei chynnwys ar drwyddedau yng Ngogledd Iwerddon.

Ar ôl i Lywodraeth San Steffan wneud y cyhoeddiad fe ofynnodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, a fyddan nhw’n caniatáu i faner Cymru gael ei chynnwys ar y trwyddedau gyrru hefyd.

Gwrthod hynny wnaeth y llywodraeth am fod y gost “yn ormod”, gan gythruddo un arall o ASau Plaid Cymru, Elfyn Llwyd.

“Mae’n hollol annerbyniol ac yn sarhad arnom ni fel cenedl,” meddai Elfyn Llwyd wrth golwg360.

“Dw i ddim yn derbyn bod yna unrhyw esgus dros beidio rhoi opsiwn i bobol roi naill ai’r ddraig goch neu beth bynnag maen nhw eisiau ar eu trwydded.

“Gofyn am yr opsiwn yma oeddem ni ac mae’n warthus na fydden nhw’n ei roi.”

Hunaniaeth

Yn ôl Cyfrifiad 2011 doedd y rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain ddim yn ystyried eu hunaniaeth fel un ‘Brydeinig’ bellach.

Yng Nghymru fe ddywedodd 58% mai Cymreig yn unig yr oedden nhw’n ystyried eu hunain, gyda 7% yn dweud eu bod yn gyfuniad o Gymreig a Phrydeinig ac 17% yn dweud eu bod yn Brydeinig yn unig.

Yn yr Alban dywedodd 62% mai Albanaidd yn unig oedden nhw, gydag 18% yn dweud eu bod yn gyfuniad o Albanaidd a Phrydeinig ac 8% yn dweud eu bod yn Brydeinig yn unig.

Ac yn Lloegr roedd dros 60% yn dweud mai Saesnig yn unig oedden nhw, gyda 9% yn dweud eu bod yn gyfuniad o Saesnig a Phrydeinig ac 19% yn dweud eu bod yn Brydeinig yn unig.