Mae bron i un o bob tri o deuluoedd yng Nghymru yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd ac yn byw ar lai o gyflog na sy’n medru caniatáu “safon byw gymdeithasol dderbyniol”.

Dyma ganlyniad adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree, a ddangosodd bod 29.4% o deuluoedd yng Nghymru sydd â phlant yn ei chael hi’n anodd talu am filiau a nwyddau i’r cartref – ffigwr sydd wedi codi o bron i 20% bum mlynedd yn ôl.

Mae’r cynnydd wedi gosod Cymru ochr yn ochr â Llundain a gogledd-ddwyrain Lloegr fel yr ardaloedd mwyaf tlawd i deuluoedd gyda phlant.

Mae arbenigwyr sy’n gyfrifol am yr adroddiad yn dweud fod y bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd wedi cynyddu ers y dirwasgiad a bod rhieni sengl neu deuluoedd sy’n byw ar un cyflog yn ei chael hi’n benodol anodd.

O ganlyniad, mae’r adroddiad yn galw am newidiadau i Gredyd Cynhwysol, i fwy o gyflogwyr dalu’r cyflog byw ac am ddiwygiadau er mwyn gwneud yn siŵr nad yw pobol ar incwm isel yn talu mwy am nwyddau a gwasanaethau hanfodol.

‘Canlyniadau difrifol’

Ym Mhrydain, amcangyfrifir bod o leiaf wyth miliwn o deuluoedd yn byw ar incwm annigonol.
Ond yng Nghymru yr oedd y risg o gael incwm annigonol wedi codi fwyaf – o 19.3% yn 2008-9 i 29.4% yn 2012-13.

“Cyflogau sy’n aros yn eu hunfan, toriadau i fudd-daliadau a chynnydd ym mhrisiau nwyddau hanfodol dros y blynyddoedd sydd wrth wraidd y canlyniadau,” meddai Katie Schmuecker o Sefydliad Joseph Rowntree.

“Os nad yw’r Llywodraeth yn gweithredu ac yn ffurfio cynllun gwrthdlodi, bydd canlyniadau difrifol i’r genhedlaeth nesaf.”

‘Heriau’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n cydnabod yr heriau sy’n wynebu nifer o deuluoedd yng Nghymru, ac wedi galw ar Lywodraeth Prydain dro ar ôl tro i feddwl eto o ran pa mor gyflym y maent yn gwneud y toriadau i’r budd-daliadau lles, a maint y toriadau hynny.

“Mae ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn pennu ein hymrwymiadau a’n targedau ar gyfer gwella canlyniadau i deuluoedd sy’n byw ar incwm isel. Rydym yn buddsoddi dros £120 miliwn y flwyddyn yn ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, gan ddarparu cyllid i awdurdodau lleol gyflawni’r amcanion hyn.

“Heddiw, rydym wedi cyhoeddi £6.9 miliwn arall i ehangu’r cynllun Dechrau’n Deg, a fydd yn ariannu canolfannau newydd ar gyfer gofal plant, a lleoliadau ble y gall rieni gael mynediad i’r cymorth y maent ei angen i helpu iddynt ymdopi â’r pwysau ariannol.

“Trwy ein rhaglenni Cymunedau’n Gyntaf ac Esgyn, rydym yn helpu pobl yn uniongyrchol yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig i wella eu hiechyd, eu sgiliau a’u rhagolygon swyddi. Rydym hefyd ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ein strategaeth tlodi plant, sy’n cydnabod yn benodol y pwysau y gall tlodi mewn gwaith ei achosi.”