Mae cyfarwyddwraig y ddrama
Garw, Betsan Llwyd, wedi dweud ei bod “wrth ei bodd” ar ôl i’r cynhyrchiad gael ei enwebu am chwe gwobr yng Ngwobrau Theatr y Flwyddyn 2015.

Hefyd mae Dros y Top, cynhyrchiad arall gan Theatr Bara Caws, wedi ei enwebu am dair gwobr a Y Negesydd gan Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei enwebu mewn pedwar categori.

Yn ogystal â Garw a Y Negesydd mae Priodferch Utah gan Theatr 1.618 ac Ectoplasm gan Tinopolis yn y ras am wobr y Cynhyrchiad Gorau yn y Gymraeg.

Eiry Thomas, Gwawr Loader (Garw), Sara Lloyd-Gregory (Y Negesydd) a Rhian Blythe (Blodeuwedd) sydd fyny am wobr Perfformiad Benywaidd yn y Gymraeg, tra bod Aled Pedrick (Y Negesydd), Carwyn Jones, Gwion Aled (Dros Y Top) a Rhys Parry-Jones (Garw) yn mynd amdani yng nghategori’r dynion.

Naw enwebiad i Theatr Bara Caws

Mae sawl rheswm i Theatr Bara Caws ddathlu wrth iddyn nhw sicrhau naw enwebiad – chwech am Garw, a thri am Dros y Top.

Cyfarwyddwr artistig y cwmni, Betsan Llwyd, oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r ddrama, ac mae hi wedi cael ei henwebu yng nghategori’r Cyfarwyddwr Gorau am ei gwaith ar Garw.

Ac fe gyfaddefodd hi wrth golwg360 nad oedden nhw wedi disgwyl cael cymaint o enwebiadau.

“Rydan ni wrth ein bodd yn fan yma ein bod ni wedi cael cymaint o enwebiadau, mae wedi bod yn grêt i ni,” meddai Betsan Llwyd.

“Doedden ni ddim yn disgwyl [cymaint o enwebiadau] – pan mae’n dod yn rhywbeth fel gwobrau does gan rywun ddim syniad beth yw chwaeth panel.

“Yn bersonol dw i’n arbennig o falch bod Siôn Eirian wedi cael ei gydnabod [am Garw yng nghategori Dramodydd Gorau yn y Gymraeg] achos mai hon oedd ei ddrama lwyfan gyntaf o ers cymaint o flynyddoedd.”

Yr enwebiadau yn llawn

Cynhyrchiad Gorau yn y Gymraeg

Ectoplasm (Tinopolis)

Garw (Theatr Bara Caws)

Priodferch Utah (Theatr 1.618)

Y Negesydd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Cynhyrchiad Gorau yn y Saesneg

Beneath The Streets (Punchdrunk Enrichment and Hijinx Theatre)

Hiraeth (Buddug James Jones)

Mametz (National Theatre Wales)

Roberto Zucco (August 012)

Perfformiad Benywaidd Gorau yn y Gymraeg

Eiry Thomas – Garw (Theatr Bara Caws)

Sara Lloyd-Gregory – Y Negesydd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Rhian Blythe – Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Gwawr Loader – Garw (Theatr Bara Caws)

Perfformiad Gwrywaidd Gorau yn y Gymraeg

Aled Pedrick – Y Negesydd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Carwyn Jones – Dros Y Top (Theatr Bara Caws)

Gwion Aled – Dros Y Top (Theatr Bara Caws)

Rhys Parry-Jones – Garw (Theatr Bara Caws)

Perfformiad Benywaidd Gorau yn y Saesneg

Catrin Aaron – Contractions (Iain Goosey Productions)

Jannah Warlow – Tender Napalm (Company of Sirens)

Sara Lloyd-Gregory – Contractions (Iain Goosey Productions)

Sian Howard – Ghosts (Clwyd Theatr Cymru)

Perfformiad Gwrywaidd Gorau yn y Saesneg

Chris Gordon – Romeo & Juliet (Sherman Cymru)

Daniel Llewelyn Williams – Not About Heroes (Clwyd Theatr Cymru)

Jordan Bernarde – Crazy Gary’s Mobile Disco (Waking Exploits)

Rhodri Miles – Clown In The Moon (Miles Productions)

Cyfarwyddwr Gorau

Betsan Llwyd – Garw (Theatr Bara Caws)

Kate Wasserberg – Contractions (Iain Goosey Productions)

Michael McCarthy – The Trial (Music Theatre Wales)

Terry Hands – Under Milk Wood (Clwyd Theatr Cymru)

Ensemble Gorau

Adventures In The Skin Trade (Theatr Iolo)

Dros Y Top (Theatr Bara Caws)

Under Milk Wood (Clwyd Theatr Cymru)

WNO Chorus (Moses und Aron)

Sioe Orau i Blant a Phobl Ifanc

As You Like It (Taking Flight Theatre Company)

Gwyn (Cwmni’r Frân Wen)

Luna (Theatr Iolo gyda Theatre Hullabaloo)

Maudie’s Rooms (Roar Ensemble gyda Sherman Cymru)

Sain a/neu Goleuo Gorau

Contractions – Dyfan Jones & Nick Beadle (Iain Goosey Productions)

Moses & Egypt – Fabrice Kebour (Welsh National Opera)

Purlieus – Joe Fletcher (National Dance Company Wales)

Song – Laura Lima & James Tyson (Ranters Theatre gydag International Performance Festival Cardiff)

Gwisg a/neu Cynllunio Gorau

Adventures In The Skin Trade – Neil Davies (Theatr Iolo)

Killing of Sister George – Holly McCarthy (Theatr Pena)

Mametz – Jon Bausor & Lucy Martin (National Theatre Wales)

Under Milk Wood: An Opera – Simon Banham (Canolfan Gelfyddydau Taliesin)

Gwryw Gorau mewn Cynhyrchiad Opera

Barry Banks – William Tell (Welsh National Opera)

David Kempster – William Tell (Welsh National Opera)

Johnny Herford – The Trial (Music Theatre Wales)

John Tomlinson – Moses und Aron (Welsh National Opera)

Menyw Orau mewn Cynhyrchiad Opera

Claire Booth – Moses in Egypt (Welsh National Opera)

Helen Sherman – Carmen (Mid Wales Opera)

Mary Elizabeth Williams – Nabucco (Welsh National Opera)

Sarah Tynan – Boulevard Solitude (Welsh National Opera)

Cynhyrchiad Opera Gorau

Acis & Galatea (Mid Wales Opera)

Moses und Aron (Welsh National Opera)

The Trial (Music Theatre Wales)

Under Milk Wood: An Opera (Canolfan Gelfyddydau Taliesin)

Dramodydd Gorau yn y Gymraeg

Carmen Medway Stephens – Priodferch Utah (Theatr 1.618)

Caryl Lewis – Y Negesydd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Dafydd James – Fe ddaw’r byd i ben (Sherman Cymru/Coleg Cymreig Brenhinol Cerdd & Drama)

Siôn Eirian – Garw (Theatr Bara Caws)

Dramodydd Gorau yn y Saesneg

Alan Harris – The Future for Beginners (LiveArtShow & Canolfan Mileniwm Cymru)

Mark Jenkins – Downtown Paradise (Welsh Fargo Stage Company)

Matthew Bulgo – Last Christmas (Dirty Protest)

Owen Sheers – Mametz (National Theatre Wales)

Cynhyrchiad Dawns Orau

Caitlin (Deborah Light, Eddie Ladd & Gwyn Emberton)

My People (Gwyn Emberton Dance)

Same Flame/ Week of Pines (Ballet Cymru)

Transition (Jem ac Ella Treays, RunRagged Productions)