Rhys Jones Llun: O glawr ei hunangofiant gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon
Mae’r cerddor a’r cyflwynydd radio a theledu Rhys Jones, tad y gantores Caryl Parry Jones, wedi marw yn 87 oed.

Roedd wedi bod yn sal ers peth amser.

Ar ôl cael ei fagu yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, fe ddaeth yn adnabyddus ar draws Cymru am ei yrfa fel cerddor amryddawn, cyfeilydd, arweinydd cymanfaoedd a beirniad.

Roedd hefyd yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug ac yn gyflwynydd radio.

Fe wnaeth Gwasg y Bwthyn gyhoeddi ei hunangofiant, Fel Hyn yr oedd Hi, yn 2012.

Ynddo, mae’n dweud: “Dwi wedi cael bywyd hir a llawn hapusrwydd. Fedra i wir ddim meddwl am amseroedd tywyll.”

‘Dylanwad’

Mewn teyrnged, dywedodd y cyfansoddwr Gareth Glyn fod Rhys Jones wedi bod yn ddylanwad enfawr ar ei yrfa:
“Mae o wedi golygu llawer iawn i mi dros y blynyddoedd – ers iddo fod yn athro cerdd arna i yn Ysgol Maes Garmon.

“Mae hi’n anodd gor-bwysleisio faint o ddylanwad mae o wedi bod ar fy ngyrfa.

“Wrth gwrs, mi roedd o’n gerddor o bwys mawr ym myd cerddoriaeth Gymraeg. Fel arweinydd ac fel rhywun oedd wedi cyfansoddi a phoblogeiddio llawer iawn o ganeuon.

“Ac fel cymeriad, mi roedd o mor hoffus ac yn llawn hiwmor.”

‘Brwdfrydedd’

Yn ogystal, fe ddywedodd Sian Gwynedd, pennaeth rhaglenni a gwasanaeth Cymraeg BBC Cymru, ei fod wedi bod yn un o “gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Radio Cymru tan yn ddiweddar iawn.”

“Roedd ganddo frwdfrydedd a gwybodaeth eang am bob math o gerddoriaeth ac roedd yn storïwr ac yn ddarlledwr heb ei ail. Mae ein cydymdeimlad yn fawr gyda’r teulu.”

Mae’n gadael ei weddw Gwen a’i blant Dafydd a Caryl.