Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru heddiw wedi galw ar arweinwyr gwleidyddol i ddod o hyd i strategaeth i ddelio â’r cwymp difrifol mewn prisiau llaeth.

Gwnaeth Emyr Jones ei sylwadau yn ystod digwyddiad dros frecwast yn y Cynulliad y bore ma a dywedodd hefyd fod angen edrych ar  ymarferoldeb cynhyrchu bwyd yn y tymor hir.

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd hufenfa First Milk eu bod am ohirio rhoi taliadau i’w ffermwyr yn dilyn cwymp ym mhrisiau llaeth.

Mae’r newydd wedi cael ei ddisgrifio fel ergyd arall i ffermwyr Cymru – sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd delio â chyfnod o ostyngiadau mewn prisiau llaeth.

Y llynedd, fe wnaeth y cwymp mewn prisiau llaeth achosi straen ariannol mawr i fusnesau amaeth, a oedd yn galw am fwy o weithredu i gefnogi’r ffermwyr.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, pan ddywedodd wrth gynulleidfa o fwy na 100 o ACau ac arweinwyr y diwydiant bod hyder o fewn y diwydiant llaeth wedi cwympo, dywedodd Emyr Jones: “Mae angen gweithredu gan archfarchnadoedd, proseswyr llaeth a Llywodraethau er mwyn rhoi hwb i incwm a hyder ffermydd llaeth.

“Fodd bynnag, mae hefyd angen strategaeth tymor hir sy’n ystyried pa mor bwysig yw cynhyrchwyr bwyd a diogelwch y diwydiant, a’r newidiadau enfawr mewn polisïau amaethyddol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.”