Mae gwyntoedd cryfion ac eira ar y ffordd i Gymru yn sgil cerrynt aer cyflym, neu jet stream, sy’n teithio ar gyflymder o 250 milltir yr awr, rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd.

Mae’r tywydd garw disgwyliedig wedi codi pryderon y bydd coed yn disgyn a llinellau trydan yn cael eu difrodi, yn debyg i’r tywydd garw a welwyd ym mis Hydref 2013.

Tymheredd isel o’r Unol Daleithiau yn taro aer cynhesach yn y de sy’n gyfrifol am y cerrynt aer cyflym, yn ôl arbenigwyr.

Mae disgwyl y bydd dau gyfnod o “wyntoedd grymus” yn cyrraedd Prydain o fewn y dyddiau nesaf – y cyntaf heno a’r olaf ddydd Sadwrn.

Fe all y gwyntoedd achosi i’r llanw godi’n uwch na’r arfer hefyd.

Mae rhybudd melyn am lifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ardal Ffestiniog ar hyn o bryd.