Huw Vaughan Thomas
Mae newidiadau a gafodd eu gwneud i’r system o hawlio budd-dal tai fel rhan o becyn lles Llywodraeth Prydain yn rhoi straen ar gynghorau lleol, cymdeithasau tai a thenantiaid, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Pan gafodd y newidiadau eu cyflwyno, mynnodd Llywodraeth Prydain y byddai’n arwain at arbedion o hyd at £1 biliwn yn 2013-14 ac £1 biliwn arall yn 2014-15.

Fel rhan o’r arbedion, mae budd-dal tai wedi gostwng ar gyfer cartrefi oedolion oedran gwaith, a chafodd cap ei gyflwyno er mwyn cwtogi faint o arian allai pobol ei hawlio.

Yn ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, fe fydd y newidiadau’n cael mwy o effaith ar denantiaid yng Nghymru nag yn Lloegr a’r Alban.

Mae’r newidiadau wedi effeithio ar allu tenantiaid i dalu rhent, gyda 23.3% o gynnydd yn nifer y tenantiaid sy’n ddyledus i’w landlordiaid yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg atebion y cynghorau lleol i’r trafferthion, ac mae’n dweud bod anghysondeb yn eu cynlluniau er bod y cynghorau hynny’n cydnabod y broblem.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad, gan gynnwys:

  • Gwella cynlluniau strategol er mwyn lleihau effaith y newidiadau lles
  • Sefydlu safonau gwasanaeth fel bod tenantiaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y ‘dreth llofftydd’ yn derbyn lefel digonol o gymorth
  • Cryfhau’r ffordd y caiff peryglon diwygiadau lles eu rheoli drwy greu un dull penodol sy’n sicrhau bod pawb yn cydweithio
  • Gwella cyfathrebu rhwng darparwyr tai a thenantiaid

Effaith sylweddol

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: “Mae’r diwygiadau lles, ac yn enwedig y newidiadau i’r budd-dal tai, yn cael effaith sylweddol ar ddarparwyr tai cymdeithasol a thenantiaid yng Nghymru.

“Mae angen i gynghorau a darparwyr tai cymdeithasol gydweithio’n agosach er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy a fydd yn lleihau’r peryglon i denantiaid sy’n codi o’r newidiadau hyn, a’r diwygiadau pellach sydd ar y gweill.”

Cynllunio

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar: “Cyflwynwyd y rhaglen ddiwygio lles i leihau’r gwariant blynyddol ar fudd-dal tai, gan helpu i leihau diffyg y DU.

“Fel yr eglura’r adroddiad, mae angen i gynghorau, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru gynllunio’n fwy effeithiol a chydweithio’n agosach i sicrhau eu bod yn ymgysylltu â thenantiaid tai cymdeithasol ac y cant gefnogaeth gyson.”