Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi mai’r ddarlledwraig Elinor Jones, sef Uwch Siryf Dyfed, fydd yn agor eu cyfarfod agored yn Sir Gâr ar ddiwedd y mis.

Bydd cyfarfod Tynged yr Iaith – sydd wedi ei drefnu er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyngor sir yn hybu’r Gymraeg yn yr ardal – yn cael ei gynnal yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin am 10.30, fore Sadwrn 17 Ionawr.

Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011 bu cwymp o 6,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin ers Cyfrifiad 2001, ac fe ddisgynnodd canran y siaradwyr Cymraeg i 44%.

Yn sgil hyn, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cadw llygad ar waith y cyngor sir i hybu’r iaith, ac wedi trefnu digwyddiadau – fel parti mawr ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr y llynedd – er mwyn tynnu sylw at sefyllfa’r Gymraeg.

Dywedodd Sioned Elin o ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:

“All neb amau teyrngarwch Elinor Jones i ddyfodol y Gymraeg, ac rydyn ni’n falch iawn ei bod yn gallu agor y cyfarfod ac yn pwysleisio fod ein hymgyrch yn un sy’n cynnwys pawb gan fod y Gymraeg yn etifeddiaeth i ni i gyd.”