Nikitta Grender
Mae’r gwaith wedi dechrau o ddymchwel fflat yng Nghasnewydd lle cafodd y ferch feichiog Nikitta Grender, 19, ei llofruddio.

Ar gais ei rheini a’i chariad, fe fydd cymdeithas dai Cartrefi Dinas Casnewydd yn dymchwel y fflat ym Mharc Broadmead ac mae disgwyl y bydd y gwaith yn para rhai wythnosau.

Cafodd Nikitta Grender ei lladd bron i bedair blynedd yn ôl, ac mae’r adeilad wedi bod yn wag ers hynny.

Roedd hi o fewn pythefnos o roi genedigaeth i’w merch fach pan wnaeth Carl Whant, 28, o Bettws ei threisio, cyn ei thrywanu i farwolaeth a rhoi’r fflat ar dân ar 5 Chwefror 2011.

Cafodd ei garcharu am o leiaf 35 mlynedd yn 2012.

Mae teulu Nikitta Grender wedi dweud fod gweld y fflat wedi bod yn atgof dyddiol o’r hyn ddigwyddodd i’r ferch 19 a’i baban, a’u bod yn “hapus” bod y gwaith o ddymchwel yr adeilad yn mynd yn ei flaen.