Am y tro cyntaf erioed, mae siop lyfrau Waterstones wedi dewis llyfr Cymraeg i fod yn ‘Lyfr y Mis’.

Fe fydd Cariad pur? – sy’n gyfrol o straeon byrion gan awduron fel Bethan Gwanas, Guto Dafydd ac Eurgain Haf – yn cael ei werthu mewn siopau Waterstones yng Nghymru fel Llyfr y Mis Ionawr 2015.

Mae’r llyfr yn cael ei gyhoeddi gan y cyhoeddwyr o Gaernarfon, Gwasg y Bwthyn sydd wedi dweud eu bod “wrth eu boddau” gyda dewis Waterstones.

‘Dathliad o gariad’

Dywedodd Golygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn, Marred Glynn Jones, bod y llyfr hefyd wedi cael ei ddewis yn Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru:

“Rydym wrth ein boddau fod Cariad pur? wedi cael ei ddewis i fod yn Llyfr y Mis Waterstones,” meddai.

“Mae’n arbennig o addas ei fod wedi cael ei ddewis ar gyfer mis Ionawr gan mai Ionawr 25 yw Dydd Santes Dwynwen, nawddsant cariad y Cymry.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Waterstones: “Mae’n bleser gennym gyflwyno ein llyfr y mis Cymraeg cyntaf, sy’n arddangos y dalent a’r harddwch cynhenid yn y Gymraeg.

“Mewn dathliad o gariad sy’n cwmpasu amser, lle a phobl, mae Cariad pur? yn ffordd berffaith i ddathlu yr emosiwn yma, ac yn wir, yn ffordd berffaith i ddathlu talent lenyddol Cymraeg yn y cyfnod yn arwain hyd at Ddydd Santes Dwynwen.”

Bydd y gyfrol yn cael ei gwerthu am £7.95 mewn siopau ym mhob cwr o’r wlad.