Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos tân mewn tŷ bwyta a anafodd ddau berson yn ddifrifol.
Mae ffordd yr A40 trwy dre’ Y Fenni yn parhau ar gau oherwydd y tân ym mwyty Indiaidd Sundarbon Bengal Cuisine ar Heol y Mynaich.
Fe gafodd criwiau tân eu galw toc cyn hanner awr wedi tri fore heddiw, ac fe achubwyd tri o bobol o adeiladau cyfagos.
Ar un adeg, roedd wyth injan dân yn bresennol, yn ceisio diffodd y fflamau.