Fe adawodd Dylan Thomas ei stamp ar 2014
Eleni mae’r Post Brenhinol yn dathlu hanner canrif o greu Stampiau Arbennig i gofio a dathlu digwyddiadau arwyddocaol.

Ers 1965 mae amryw o ddelweddau wedi eu dewis gan y Post Brenhinol i gynrychioli Cymru ar stamp, gan gynnwys y Senedd yng Nghaerdydd, Castell Caernarfon, Tywysog Cymru, Y Dywysoges Diana a Chanolfan y Mileniwm.

I ddathlu’r garreg filltir mae’r Post Brenhinol wedi creu galeri ar-lein o bob Stamp Arbennig gafwyd hyd yma.

Y deg Stamp Arbennig mwya’ iconig, yn ôl y Post Brenhinol, yw:

  1. Castell Caernarfon – 1969
  2. Stackpole Head (Sir Benfro) – 1981
  3. Beibl Cymraeg Prifysgol Abersytwyth – 1988
  4. Ffenestr gwydr lliw Porthcawl – 1992
  5. Pen Dewi Sant, Ty Ddewi – 1995
  6. Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd – 2000
  7. Bannau Brycheiniog – 2004
  8. Dylan Thomas – 2014
  9. Senedd Cymru – 2008
  10. Pont ddŵr Pontcysyllte, Wrecsam.

Ewch i www.rmspecialstamps.com i gael gweld y galeri.