Mae gwyntoedd cryfion a llifogydd yn achosi trafferthion ar ffyrdd, rheilffyrdd a theithiau cychod yng ngogledd Cymru.

Oherwydd llifogydd mae bws – yn hytrach na thrên – yn cludo teithwyr rhwng Blaenau Ffestiniog a Llanrwst.

Ac oherwydd cryfder y gwynt mae cyfyngiad cyflymder o 30 milltir yr awr ar yr A55 ar Bont Britannia.

Hefyd fe gafodd y gwch oedd i fod i groesi o Ddulyn i Gaergybi am 8.45 y bore yma ei chanslo oherwydd y tywydd.