Yn ei neges flwyddyn newydd, mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn edrych yn ôl ar flwyddyn “pan adawodd Cymru ei hôl ar y llwyfan rhyngwladol”.

Dywedodd Carwyn Jones: “Yn 2014 fe ddangoson ni Gymru i’r byd ac fe ddaeth y byd i Gymru.

“Drwy deithiau masnach i’r Unol Daleithiau, Canada, India a Japan, fe wnaethon ni helpu i greu miloedd o swyddi newydd o ansawdd, a’n huwchgynhadledd NATO ddenodd y nifer fwyaf o arweinwyr byd i’r DU erioed.

“Roedd llygaid y byd ar Gymru wrth i arweinwyr o bedwar ban weld beth yn union y gallwn ei wneud fel cenedl. Hwn hefyd oedd y tro cyntaf i unrhyw un o arlywyddion yr Unol Daleithiau droedio pridd Cymru tra’i fod yn ei swydd.

“Roeddwn i’n teimlo fy malchder yn codi wrth i’r Arlywydd Obama ddweud wrth y byd bod Cymru yn wlad o harddwch eithriadol, pobl fendigedig a lletygarwch gwych. Dwi’n cytuno â’m holl galon.

“Ym myd addysg, fe welon ni’r canlyniadau gorau erioed i ddisgyblion Cymru, ac mae ein system ffioedd dysgu yn golygu bod miloedd yn fwy o’n myfyrwyr yn cael osgoi baich dyledion na allan nhw eu rheoli.

“Fe aethon ni ati fel lladd nadredd i warchod ein GIG rhag ymosodiadau annheg a di-sail – ac rydyn ni wedi buddsoddi mwy nag erioed o’r blaen i sicrhau bod gan y sefydliad hwn, sydd mor annwyl inni, yr adnoddau sydd eu hangen arno er mwyn gallu ymateb i’r heriau sy’n sicr o’n blaen.

“Rydyn ni wedi creu cyfreithiau newydd ar gyfer tai a gofal cymdeithasol a fydd yn gwneud Cymru yn lle mwy diogel a theg.”

Gemau’r Gymanwlad… a’r dyfodol

“Roedd ein hathletwyr yn destun balchder inni yng Ngemau’r Gymanwlad, gan dorri record o ran nifer y medalau a enillwyd i Gymru a chan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o nofwyr, rhedwyr, mabolgampwyr a beicwyr.

“Felly beth sy’n ein haros yn 2015? Does dim dwywaith bod yna bethau anodd yn ein hwynebu. Mae gormod o bobl yn dal i stryffaglu i gael dau ben llinyn ynghyd, ac i fanteisio ar yr adferiad economaidd.

“Ein gweledigaeth fel Llywodraeth Cymru yw gweithredu drostyn nhw, a chynnig gobaith iddyn nhw, hyd yn oed mewn cyfnod o heriau aruthrol a chyllidebau sy’n crebachu.

“Fe fydd Cymru, fel pob gwlad arall, yn gorfod delio â’r ansicrwydd a’r terfysg sydd yn y byd, ac fel rydyn ni wedi’i wneud bob amser, fe rown ni ein cefnogaeth i’r rheini sydd ei angen fwyaf.

“Ar adeg blwyddyn newydd, mae yna demtasiwn i ymroi i gofio dyddiau a fu, ond mae’n rhaid inni edrych i’r dyfodol hefyd. Dwi ddim erioed wedi cyd-fynd â’r syniad mai cyfnod diwydiannol Cymru oedd ein cyfnod euraid. Mae’r amser gorau eto i ddod. Dwi’n siwr o hynny.

“Mae dyfodol bywiog ac egnïol o’n blaen yma yng Nghymru. Mae 2015 yn mynd i fod yn flwyddyn wych i’r genedl hon. Blwyddyn newydd dda ichi i gyd.”