Mae corff dyn 45 oed wedi cael ei ddarganfod mewn tŷ yn Llwynhendy, ger Llanelli meddai Heddlu Dyfed Powys.

Nid ydyn nhw’n trin ei farwolaeth fel un amheus.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Heol Gwalia am 7.45yh nos Sul yn dilyn adroddiadau am farwolaeth sydyn.

Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael eu hysbysu ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod achos y farwolaeth.