Dinistr ar ôl y gwrthdaro yn Gaza
Wrth i ni ddod tuag at ddiwedd blwyddyn arall, rydyn ni wedi bod yn edrych nôl ar rai o’r straeon mwyaf poblogaidd ar golwg360 eleni.

Dyma’r deg stori uchaf yng nghategori newyddion rhyngwladol, o Israel i Lydaw, Catalonia i’r Ariannin.

1. Yr Israeliaid dan warchae

Roedd y gwrthdaro yn Gaza yn un o’r straeon rhyngwladol mwyaf eleni, a doedd hi ddim yn syndod felly gweld cyfweliad golwg360 â’r Aelod Seneddol Guto Bebb yn dod i’r brig fel yr erthygl gafodd ei darllen fwyaf.

Newydd ddychwelyd o Israel oedd Guto Bebb, ac fe esboniodd yr AS bod pobl Israel hefyd yn teimlo “dan warchae” yn ystod y gwrthdaro – sylwadau oedd yn siŵr o ennyn ymateb.

2. Gwyddeleg yn marw

Nid yng Nghymru yn unig wrth gwrs y mae rhybuddion ynglŷn â dyfodol ieithoedd lleiafrifol, a nôl ym mis Ionawr fe ddaeth rhybudd gan Gomisiynydd yr iaith Wyddeleg fod dyfodol ansicr o’i blaenau nhw hefyd.

Dywedodd Sean O’Cuirreain nad oedd Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon  wedi cefnogi’r iaith yn iawn, a’i bod mewn peryg o farw os nad oedd polisïau am yr iaith yn cael eu gweithredu.

3. 30,000 yn protestio yn Llydaw

Fe aeth tua 30,000 o bobl allan ar y strydoedd i brotestio yn Llydaw ym mis Medi i alw ar lywodraeth Ffrainc i ailddiffinio ffiniau’r diriogaeth.

Cafodd dinas Nantes ei wahanu oddi wrth weddill tiriogaeth Llydaw nôl yn 1941, ac mae trigolion Llydaw wedi bod yn galw am ailuno’r ddau ran.

4. Hollande am uno Llydaw?

Roedd y miloedd a aeth allan ar y strydoedd yn Llydaw mis Medi yn protestio yn erbyn penderfyniad a wnaeth arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, nôl ym mis Mehefin.

Dyna pryd gyhoeddodd yr arlywydd sut y byddai taleithiau Ffrainc yn cael eu haildrefnu – gan anwybyddu galwadau o  Lydaw i ailffurfio eu tiriogaeth hanesyddol nhw.

5. Prydain yn cynnig help i Nigeria

Cafodd pobl ar draws y byd sioc enfawr o glywed y newyddion erchyll bod 300 o ferched ysgol wedi cael eu herwgipio gan fudiad brawychol Boko Haram yn Nigeria ym mis Ebrill.

Fe gynigiodd llywodraeth Prydain gymorth i’r awdurdodau yn Nigeria er mwyn ceisio cael hyd i’r merched a’u dychwelyd yn saff i’w teuluoedd, ond does dim sicrwydd hyd heddiw beth sydd wedi digwydd i lawer ohonynt.

6. Rhybudd am effaith rhannu Llydaw

Nôl i’r ffrae dros aildrefnu llywodraethau lleol Ffrainc, gyda mudiad ysgolion Llydaweg y tro hwn yn rhybuddio am yr effaith a galw ar bobl i wrthdystio.

Dywedodd mudiad Diwan y gallai parhau i rannu Llydaw rhwng dau ranbarth beryglu dyfodol y genedl “a’i diwylliant a’i hieithoedd”.

7. Cyfle am annibyniaeth i Gatalwnia

Un o flogiau Gwleidyddiaeth Bethan Gwenllian ar golwg360 oedd hon, yn trafod y posibilrwydd o Gatalwnia annibynnol ar drothwy pleidlais anffurfiol am ei dyfodol gwleidyddol ym mis Tachwedd.

Roedd refferendwm ffurfiol am y mater eisoes wedi cael ei ganslo, ond fe benderfynodd llywodraeth Catalwnia fwrw ymlaen â’r bleidlais anffurfiol ac fe ddywedodd dros 80% o’r rheiny a bleidleisiodd eu bod yn cefnogi annibyniaeth.

8. Dim refferendwm i Gatalwnia

Trwy gydol y drafodaeth dros annibyniaeth i Gatalwnia mae llywodraeth Sbaen wedi bod yn chwyrn yn erbyn y syniad o hyd yn oed caniatáu refferendwm ar y mater.

Pwysleisiodd Mariano Rajoy hynny eto ym mis Ionawr, gan ddweud y byddai pleidlais o’r fath yn anghyfreithlon ac na fyddai ef yn caniatáu i unrhyw ran o Sbaen fynnu annibyniaeth tra ei fod ef yn brif weinidog ar Sbaen.

9. Pledu car Clarkson â cherrig

Cafodd Jeremy Clarkson a thîm rhaglen Top Gear eu hunain mewn trwbl yn yr Ariannin ym mis Hydref ar ôl iddyn nhw gythruddo’r bobl leol wrth ffilmio un o’u rhaglenni.

Fe daflodd yr Archentwyr gerrig at gar y cyflwynydd ar ôl iddo yrru Porsche drwy’r wlad gyda’r rhif plât H982 FKL – rhifau a llythrennau gafodd eu dehongli fel cyfeiriad at Ryfel y Falklands yn 1982.

10. Hamas yn ailddechrau saethu rocedi

Roedd y tensiynau yn Gaza ar eu gwaethaf ar ddiwedd mis Gorffennaf, wrth i Israel barhau i fomio’r diriogaeth a Hamas daro nôl gyda rocedi eu hunain.

Fe gynigiodd Israel i ymestyn cadoediad rhwng y ddau ochr, ond fe wrthododd Hamas y cynnig am nad oedden nhw’n hapus fod milwyr Israel yn parhau i fod yn Gaza.