Mae menyw a phlentyn yn yr ysbyty yn dilyn ffrwydrad nwy yn Sir Gaerfyrddin.
Chwalwyd ffenestri’r tŷ ger yr A477 rhwng Sanclêr a Maes-y-Lan am 8.55 fore dydd Sul.
Dywedodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a Gorllewin Cymru bod yna broblem gyda phopty yno.