Bryn Terfel yn canu gwerin

Diweddarwyd  


Bryn Terfel
Yn hytrach nag yn ei gynefin gwreiddiol ar lwyfan un o dai opera mwya’r byd, o Amgueddfa Werin Cymru fydd Bryn Terfel yn diddanu cynulleidfa ar Ddydd Nadolig eleni.

Mewn rhaglen ar S4C, fe fydd y canwr o Bant Glas yn canu carolau ac alawon gwerin traddodiadol o Sain Ffagan gyda gwesteion cerddorol eraill o’r tu allan i’w genre clasurol arferol.

Cerddi Myrddin ap Dafydd sy’n pontio’r caneuon, rhai ohonynt o’i gyfrol ‘Golau ar y Goeden’ ac eraill wedi eu comisiynu ar gyfer y rhaglen.

“Mae’n faes rhywfaint yn wahanol i’r arfer i Bryn,” meddai cynhyrchydd cerdd y rhaglen, Bethan Anwyl.

“Mae ‘na gyfuniad o hen alawon, carolau traddodiadol Nadoligaidd a charolau plygain ac mae ‘na hefyd gyfle i glywed cerdd dant a chân werin newydd gan Gwyneth Glyn.

“Mae’r artistiaid i gyd o fyd cerddoriaeth gwerin ac yn amrywio o ran eu steil ac arddulliau cerddorol.”

‘Lleoliad perffaith’

Meddai Bryn Terfel: “Mae Amgueddfa Werin Cymru yn lleoliad perffaith i raglen Nadoligaidd a thrwy gyflwyno trefniannau newydd, teimladwy o garolau traddodiadol a chyfoes rwy’n teimlo ein bod ni wedi medru creu naws unigryw’r Ŵyl.

“Roedd hi’n bleser i mi’n bersonol gael ffilmio’r rhaglen yn Sain Ffagan gan ‘mod i’n hoff dros ben o’n Hamgueddfa Werin Genedlaethol a hefyd yn bleser cydweithio ar y rhaglen gyda cherddorion ifanc, dawnus dros ben.”

Bydd y rhaglen gyda Bryn Terfel, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Brychan Llŷr, y ddeuawd Brigyn a’r grŵp Calan yn cael ei darlledu am 8 yr hwyr ar Ddydd Nadolig.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd