Mae Heddlu Gwent yn chwilio am ddyn sy’n cario cyllell yn ardal Rhisga.

Fe ddaw hyn wedi digwyddiad ym maes parcio gorsaf drenau Rhisga, toc wedi 2yp ddoe.

Fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau fod dyn gyda chyllell yn bygwth dyn a dynes. Chafodd yr un o’r ddau ohonyn nhw eu hanafu, ond roedden nhw wedi cyffroi’n ofnadwy yn dilyn y digwyddiad.

Fe all unrhyw un â gwybodaeth berthnasol ffonio’r heddlu ar y rhif 101, neu gysylltu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.