Rhys Ifans yn y cynhyrchiad o Dan y Wenallt
Mae un o sêr y byd ffilm, Rhys Ifans wedi dweud ei fod yn barod i helpu’r genhedlaeth nesaf o Gymry sydd am fentro i fyd y ffilm.

Dywedodd wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon ei bod yn anodd derbyn nawdd ar gyfer byd y ffilm yn y Gymraeg a’i fod yn “fynydd mawr i’w ddringo”.

Eglurodd fod ganddo nifer o brosiectau ar y gweill a allai fod o gymorth i actorion ifanc.

“Dw i’n barod i fynd,” meddai. “Mi fyswn i wrth fy modd yn creu ryw brosiect yn y dyfodol agos sy’n cymryd mantais o’r dalent sydd gennym ni yn y maes actio, cynllunio, tu ôl y camera ac o flaen y camera. Mi fyswn i wrth fy modd yn ffeindio’r peth iawn.”

Yn y flwyddyn newydd fe fydd Rhys Ifans yn ffilmio The Marriage of Reason and Squalor gyda’r brodyr Jake a Dinos Chapman.

“Dw i wedi gweithio efo nhw yn y gorffennol ar brosiectau ac mae hon yn brosiect newydd fyddwn ni’n gweithio ar ym mis Ionawr,” meddai. “Efallai bod prosiectau eraill yn y popty ond heb godi eto.”

Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.