Ashley Talbot
Mae disgwyl i grwner agor cwest i farwolaeth un o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Maesteg ym Mhen-y-bont, fu farw mewn damwain y tu allan i’r ysgol yr wythnos diwethaf.

Cafodd Ashley Talbot, 15, ei ladd mewn gwrthdrawiad gyda bws mini’r ysgol oedd yn cael ei yrru gan aelod o staff i gêm rygbi ar 10 Rhagfyr.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei deulu ei fod yn rhywun oedd yn medru “goleuo’r ystafell gyda’i wên a’i ddigrifwch”.

Fe fydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Llys y Crwner, Aberdâr.

Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n parhau gyda’u hymchwiliadau i geisio darganfod beth achosodd y gwrthdrawiad ac fe fu swyddogion yn yr ysgol y bore ma yn gwneud apêl o’r newydd am dystion.