Daniel Morgan
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wneud datganiad heddiw am yr ymchwiliad i farwolaeth y Cymro Daniel Morgan yn Llundain yn 1987.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl, a chafodd ffeiliau eu trosglwyddo gan Heddlu Llundain i aelodau panel yr ymchwiliad yr wythnos diwethaf.

Mae disgwyl i’r datganiad heddiw gynnwys cyhoeddiad am benodi dau aelod newydd o’r panel.

Dywed y teulu fod llygredd yr heddlu wedi achosi oedi yn yr ymchwiliad, ond maen nhw’n parhau’n ffyddiog y bydd modd dod o hyd i’r sawl a laddodd Daniel Morgan ym maes parcio un o dafarnau Llundain ar Fawrth 10, 1987.

Nid oes unrhyw un wedi cael ei gyhuddo o’i lofruddiaeth er gwaethaf pum ymchwiliad hyd yma.