Mae 29 artist a band o Gymru wedi derbyn bwrsariaethau cerddorol fel rhan o gronfa Lansio gwerth £50,000.

Bydd yr artistiaid yn derbyn hyd at £2,000 yr un yn y gobaith o’u helpu gyda’u gyrfaoedd, datblygu eu cerddoriaeth a chefnogi gweithgareddau a fydd o gymorth iddynt gyrraedd eu potensial.

Cafodd cronfa Lansio ei chreu fel rhan o brosiect Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth newydd a chyfoes yng Nghymru.

Panel yn dewis

Mae’r 29 artist a band fu’n llwyddiannus wedi derbyn arian i’w hybu gyda nifer o wahanol agweddau, gan gynnwys recordio deunydd newydd, prynu offer a thechnoleg, a chostau teithio.

Ymysg yr artistiaid sydd wedi bod yn llwyddiannus mae bandiau fel Sŵnami, Yr Eira ac Estrons, a’r canwr Sion Richards.

Cafodd y cerddorion buddugol eu dewis gan banel oedd yn cynnwys Adam Walton a Bethan Elfyn (BBC Radio Wales), Alun Gaffey (BBC Radio Cymru), Lisa Matthews ac Aeron Roberts (Cyngor Celfyddydau Cymru) , Guto Brychan (Clwb Ifor Bach/ Maes B), Simon Griffiths (Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc), Liz Hunt (The School/Fizzy Events), Rhys Lloyd Jones (Pontio) ac Emma Daman Thomas (Islet/ Shape Records).

Papua New Guinea

Derbyniwyd 118 cais yn gyfan gwbl, ac o’r rhai llwyddiannus un o’r rhai mwyaf anghyffredin oedd un Amlyn Parry, o Gaernarfon, a wnaeth gais am offer sain dechnegol i recordio cerddoriaeth maes yn Papua New Guinea.

“Ry’n ni’n falch o wobrwyo 29 grant Cronfa Lansio i helpu bandiau ac artistiaid yng Nghymru,” meddai Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion.

“Ar hyn o bryd, mae’r sin cerddorol yng Nghymru mor flaengar a bywiog – mae’r stiwdios, ystafelloedd ymarfer, a lleoliadau yn llawn bandiau newydd sy’n dechrau eu gyrfaoedd, ac mae’r ffaith bod gwyliau bach yn digwydd fwyfwy yn dangos faint o artistiaid newydd sy’n tynnu sylw ar y funud.

Yr artistiaid

Dyma restr o’r holl artistiaid sydd wedi derbyn bwrsariaeth drwy’r cynllun Lansio:
Sion Richards – Costau stiwdio, cerddorion ychwanegol a hyrwyddo albwm
Yr Eira – EP newydd a hyrwyddo gan bersonoliaeth
Amlyn Parry – Offer technegol i recordio cerddoriaeth maes yn Papua New Guinea
Sŵnami – Offer teithio a thrwsio trafnidiaeth
Titus Monk – Gweithio gyda’r cynhyrchwr Cian Ciaran (Super Furry Animals)
Seazoo – Offer hunan-recordio
Baby Brave – Creu, hyrwyddo a theithio ar gyfer tair EP
Mowbird – Recordio, meistroli, ar-lein a hyrwyddo ar gyfer ail albwm
Falls – Cefnogi gweithgareddau teithio gyda chyfraniad tuag at gerbyd
Meilyr Jones – Llogi stiwdio, cynhyrchu albwm a chreu albwm unigol
Jess Hall – Gweithio ar dri chasgliad gyda thri chynhyrchydd
Heavy Petting Zoo – Hyrwyddo ar-lein ac yn y wasg o’i gwaith nesaf
Prosperina – Costau teithio
Broken Fires – Recordio, creu a hyrwyddo eu cerddoriaeth
Roka – Recordio pum trac EP ar gyfer label
Mixalydia – Recordio stiwdio, hyrwyddo fideo a’i gwaith nesaf
Baby Queens – Offer newydd
Estrons – Recordio caneuon newydd
Ellie Makes Music – Cynhyrchu, meistroli, a hyrwyddo gwaith newydd
Houdini Dax – Cyfraniad tuag at gerbyd ar gyfer teithio
Tender Prey – Cefnogaeth ar gyfer taith i hyrwyddo albwm newydd
Samoans – Prynu allweddell i ychwanegu at ei sain byw
Wasters – Recordio gyda chynhyrchydd Rory Attwell (Parma Violets, The Vaccines)
FUR – Recordio EP gyda’r cynhyrchydd John Rae
HMS Morris – Amser stiwdio yn Stiwdio Mono Valley
Gabrielle Murphy – Recordio ail EP
Climbing Trees – Recordio, meistroli a chymysgu yn stwidios Mwnci, Caerfyrddin
Peasants King – Cymysgu gyda’r cynhyrchydd Greg Haver (Manics)
TWISTED – Lle i ymarfer, amser mewn stiwdio, llogi fan am 10 diwrnod, a gitâr Les Paul, Gibson