Ashley Talbot
Mae teulu’r bachgen 15 oed fu farw mewn gwrthdrawiad y tu allan i Ysgol Uwchradd Maesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn rhywun oedd yn medru “goleuo’r ystafell gyda’i wên a’i ddigrifwch”.

Cafodd Ashley Talbot ei ladd mewn damwain gyda bws mini’r ysgol oedd yn cludo disgyblion i gêm rygbi am tua tri o’r gloch b’nawn dydd Mercher.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad:

“Cafodd Ashley ei gymryd oddi wrthym yn dilyn damwain drasig. Roedd ein mab yn golygu popeth i ni ac ni fyddem wedi ei newid am y byd.

“Roedd yn fachgen cyffredin, yn hoff o dynnu coes ac roedd ganddo chwerthiniad direidus oedd yn heintus. Roedd yn medru goleuo’r ystafelloedd tywyllaf gyda’i wên a’i ddigrifwch.

“Fe fydd pawb yn colli Ashley yn fawr iawn, ond bydd gyda ni am byth yn ein hatgofion.

“Hoffem ddiolch i bawb am y gefnogaeth a’r negeseuon caredig ond rydym yn gofyn nawr i gael llonydd i alaru fel teulu.”