Mae Rhys Ifans yn serennu fel y Llais Cyntaf a Capten Cat
Fe fydd cyfle arbennig i weld fersiwn newydd o’r ddrama ‘Dan y Wenallt’ gan Dylan Thomas mewn amryw sinemâu ledled Cymru heno.

Cafodd ei chyfarwyddo gan Kevin Allen ac mae’n serennu Rhys Ifans fel y Llais Cyntaf a Capten Cat, a dyma’r tro cyntaf i’r ddau gydweithio ers ‘Twin Town’ bymtheg mlynedd yn ôl.

Mae rhan y cymeriad Polly Garter yn cael ei chwarae gan y gantores Charlotte Church.

Hwn yw’r dramateiddiad sinematig cyntaf o’r ddrama ers 1972, y fersiwn sy’n serennu Richard Burton.

Cafodd y sgript ar gyfer y fersiwn newydd hon ei llunio gan Murray Lachlan Young, Michael Breen a Kevin Allen.

Mewn datganiad, dywedodd Kevin Allen, “Roeddwn i’n benderfynol o greu trosiad sinematig oedd yn herio’r ddirnadaeth gyffredin, y dylai barddoniaeth aros ym mharth y darllenydd.”

Bydd y ffilm i’w gweld yn Chapter yng Nghaerdydd, KinoKulture yng Nghroesoswallt, Theatr Gwaun yn Abergwaun, Theatr Blake yn Nhrefynwy, Sinema Llancarfan, Sinema Ucheldre, y Magic Lantern yn Nhywyn a’r Ffwrnes yn Llanelli.