Rhun ap Iorwerth
Mae Plaid Cymru wedi lansio pecyn o bolisïau i gefnogi busnesau bach Cymru.

Wrth lansio’r polisïau cyhoeddodd y blaid y bydd yn cael gwared ar drethi busnes i 70,000 o fusnesau bach Cymru, gyda’r bwriad o wella caffael a chreu bron i 50,000 o swyddi.

Wrth siarad cyn y lansiad, eglurodd yr Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth: “Mae 99% o fusnesau Cymreig yn Fentrau Bach a Chanolig – SMEs – a nhw yw asgwrn cefn yr economi Gymreig.

“Mae’r busnesau hyn wrth galon ein cymunedau lleol a dyna pam ein bod yn ymrwymo i ysgafnhau’r baich ariannol arnynt drwy gyflwyno system torri trethi busnes fyddai’n helpu 83,000 o fusnesau bach Cymreig a chael gwared ar y trethi’n gyfan gwbl i 70,000 ohonynt.”

‘Uchelgais’

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys yn Nhŷ’r Cyffredin, Jonathan Edwards:
“Mae gan Gymru gyfoeth o uchelgais a thalent sydd wedi arwain at greu mentrau a busnesau hynod lwyddiannus ledled y wlad. Serch hyn, yn rhy aml mae’r busnesau hyn yn colli allan ar gytundebau cyhoeddus sydd yn hytrach yn mynd i gwmnïau o’r tu allan i Gymru.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld mwy o gytundebau’n mynd i gwmnïau lleol Cymreig er mwyn creu swyddi a sicrhau fod cyfoeth sy’n cael ei greu yng Nghymru yn aros yng Nghymru.

“Pe baem yn ychwanegu 25% i’n lefelau caffael presennol o 52% yna byddem yn medru creu bron i 50,000 o swyddi – dyna amcan Plaid Cymru.”