Mae’r bardd a’r dramodydd Menna Elfyn wedi cael ei hethol yn Llywydd Wales PEN Cymru yng nghyfarfod blynyddol cyntaf y sefydliad.

Dros y penwythnos bu aelodau PEN Cymru, sy’n hyrwyddo cysylltiad rhwng gwahanol awduron ac yn gwarchod eu hawliau, yn cwrdd yn y Gelli Gandryll.

Mae PEN, sy’n sefyll am Poets, Essayists and Novelists, wedi bod mewn bodolaeth ers 93 mlynedd ac erbyn hyn mae gan y sefydliad fwy na 100 o ganolfannau ledled y byd.

Mae’r gymdeithas yn ymgyrchu ar ran ysgrifenwyr o bob cwr a chornel sy’n cael eu hymlid, eu carcharu, eu poenydio neu ymosod arnynt oherwydd yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt.

‘Rhyddid mynegiant’

Dywedodd Menna Elfyn ei bod yn “anrhydedd” bod yn Llywydd cyntaf Wales PEN Cymru: “Bu ymdrechion blaenorol i sefydlu PEN Cymreig, yn nodedig yn y 1960au, ond mae’r amser yn awr wedi dod i ysgrifenwyr Cymru i ymroi gydag eraill i ymgyrchu dros ryddid mynegiant trwy’r byd ac i gefnogi’r rhai hynny sy’n dioddef gorthrwm ieithyddol,” meddai Menna Elfyn.

Ychwanegodd cynrychiolydd PEN Cymru, Sally Baker bod Menna Elfyn yn “arweinydd perffaith”.

“Yn adnabyddus adref yma a thramor, bydd yn amddiffynnydd dros hawliau ieithyddol a chyfieithu, meysydd sydd wrth graidd gweithgarwch PEN,” meddai.