Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu canolfannau iaith mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg bellach yn brif iaith.

Cyhoeddwyd enwau’r canolfannau fydd yn derbyn yr arian gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yr wythnos diwethaf, gyda’r gogledd ddwyrain a sir Gaerfyrddin yn amlwg yn y cynlluniau at ehangu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn ardaloedd sydd wedi gweld y Saesneg yn dod yn brif iaith, yn gam allweddol wrth adfywio’r iaith yn yr ardaloedd hynny yn ôl Dyfodol i’r Iaith, wrth i gynlluniau am Ganolfannau Cymraeg ddod yn agos at eu gwireddu yn Llanelli a mannau eraill.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Wrth i sefydliadau traddodiadol sydd wedi cefnogi’r iaith a chymdeithasu trwy’r Gymraeg edwino, mae hi’n dod yn fwyfwy pwysig bod gan gymunedau yng Nghymru ganolfannau sy’n rhoi modd i bobl leol gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae Canolfannau Cymraeg yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol, ac yn rhoi cyfle hefyd i bobl ifanc fwynhau bywyd Cymraeg y tu allan i’r system addysg.”

Modelau eraill ar gael

Ychwanegodd Heini Gruffudd: “Mae modelau ar gael yn Abertawe a Merthyr Tudful sy’n profi bod Canolfannau Cymraeg yn gallu llwyddo a dod yn ffocws i fywyd Cymraeg. Mae cael mudiadau Cymraeg, Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith a llywodraeth leol i ddod at ei gilydd yn allwedd llwyddiant, ond yr un mor bwysig yw bod gwirfoddolwyr lleol yn ganolog i’r fenter.

“Mae’n wych bod y Llywodraeth yn rhoi arian cyfalaf i gefnogi sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn sawl rhan o Gymru. Y ddelfryd yw bod y rhain yn amlhau a’u bod yn dod yn ganolfannau dysgu a chymdeithasu, yn debyg i’r 200 o ganolfannau yng Ngwlad y Basg.

“Gyda’i gilydd, gallan nhw gyfrannu’n greadigol at drawsnewid ieithyddol yn ardaloedd Seisnigedig Cymru.”