Dai Lloyd
Mae Plaid Cymru’n cefnogi ymgyrch i arbed meysydd chwarae yn Sgeti, Abertawe, rhag eu gwerthu.

Mae ymgeisydd Cynulliad y Blaid ar gyfer Gorllewin Abertawe, Dr Dai Lloyd, yn dweud y byddai colli’r caeau chwarae yn Ysgol Gynradd Parkland yn “gyflafan” i’r gymuned leol.

“Dyma feysydd chwarae sy’n rhan hanfodol o etifeddiaeth pobl Abertawe, ac fe fyddai eu gwerthu’n andwyol i addysg a datblygiad y genhedlaeth iau”, meddai Dr Lloyd, sy’n feddyg teulu lleol.

“Yr eironi yw bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad eleni am weithredu deddfwriaeth i warchod meysydd chwarae – ond dyma Gyngor dan reolaeth y Blaid Lafur yn ceisio gwerthu off asedau sy’n bwysig dros ben ar gyfer y dyfodol.

“Yn ystod ei gyfnod yn Aelod Cynulliad dros ranbarth De-orllewin Cymru, noddodd Dr Lloyd fesur i rwystro cael gwared â meysydd Chwarae, y cafodd ei basio yn y diwedd yn 2010. Y Mesur hwn yw’r un mae Llywodraeth Cymru’n wedi ymgynghori yn ei gylch.