Buckinghamshire mewn coch
Mae S4C wedi ei beirniadu am gyflogi cwmni o Loegr aeth ati i holi barn ei gwylwyr am arlwy’r Sianel Gymraeg yn uniaith Saesneg.

Yr wythnos ddiwetha’ roedd gwraig yn cynnal gwaith ymchwil y farchnad yn nhref Caernarfon ar ran SPA Future Thinking o High Wycombe yn Buckinghamshire, Lloegr.

Tra’n ymddiheuro am y ffaith nad oedd y wraig yn medru holi cwestiynau am arlwy S4C yn Gymraeg, nid oedd y Sianel yn fodlon datgelu wrth golwg360 pwy oedd y cwmni gafodd gytundeb i gynnal y gwaith ymchwil.

Ond mae golwg360 wedi cael cadarnhad gan SPA Future Thinking maen nhw sy’n gwneud y gwaith ar ran S4C.

Roedd aelod o’r cyhoedd wedi cwyno am nad oedd modd trafod yr arolwg barn yn Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon.

“Pa fath o  esiampl mae S4C yn rhoi trwy gyflogi rhywun sydd ddim yn medru’r Gymraeg i wneud arolwg yng Nghaernarfon?” gofynna’r AC Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg.

“Dyw’r cwmni ddim chwaith yn dod o Gymru. Rydyn ni’n gwybod byddai rhoi contractau cyhoeddus i fusnesau lleol yn gallu creu hyd at 50,000 o swyddi lleol.”

Nid oedd S4C yn fodlon dweud faint maen nhw’n dalu i’r cwmni o Buckinghamshire am y gwaith ymchwil.

Mae Simon Thomas yn cwyno am “[d]diffyg tryloywder S4C oedd ddim eisiau dweud faint maent wedi talu’r cwmni o High Wycombe”, ac yn dweud fod y mater yn brawf pellach o’r angen i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros y Sianel i Gymru.

Yn ôl Aelod Cynulliad Arfon mae’r sefyllfa yn “anffodus a dweud y lleiaf”.

Mae Alun Ffred Jones hefyd yn credu y dylai’r Sianel gyflogi cwmni ymchwil o Gymru i holi gwylwyr am yr arlwy.

“Yn gyffredinol dylai arian Cymru gael ei wario o fewn Cymru a’i ddefnyddio i ddatblygu cwmnïau Cymreig.

“Yr unig gwestiwn gen i yw beth oedd natur y grŵp ffocws a  pha wybodaeth oedden nhw’n ei geisio? Dylai S4C egluro’r sefyllfa rhag blaen.”

Mae’r Aelod Seneddol Guto Bebb yn “hynod siomedig” ac wedi gofyn a wnaeth S4C hysbysebu’r cytundeb i wneud y gwaith ymchwil yn gyhoeddus.

Ac meddai’r AC Lib Dem Aled Roberts: “Dw i ddim yn deall pam nad ydy S4C yn fodlon enwi’r cwmni sy’n gwneud y gwaith ymchwil ar eu rhan. Fyswn i’n disgwyl i gorff sy’n cael arian cyhoeddus fod yn agored o ran pwy maen nhw’n ddefnyddio.”

S4C yn ymddiheuro

Yn ymateb i’r ffaith nad oedd holwraig SPA Future Thinking yn medru siarad Cymraeg gyda’r cyhoedd yng Nghaernarfon, fe ddywedodd Pennaeth Dadansoddi S4C, Carys Evans: “Mae peidio cynnig opsiwn yn y Gymraeg yn annerbyniol ac rydym yn ymddiheuro fod hyn wedi digwydd. Byddwn yn codi’r mater yma gyda’r cwmni sy’n gwneud y gwaith yma i S4C ar lefel uchel i ganfod beth sydd wedi mynd o’i le yn yr achos yma.”

Ychwanegodd: “Rydym yn defnyddio cwmnïau o Gymru, yn ogystal â chwmnïau o weddill y Deyrnas Unedig. Mae’r penderfyniad ynghylch pwy a ddefnyddir yn cael eu seilio ar eu harbenigedd i baratoi a dadansoddi gwybodaeth a data, a gwybodaeth am y maes darlledu yn benodol.”

O ran faint mae’r Sianel Gymraeg yn talu i SPA Future Thinking, dywedodd llefarydd: “Hoffai S4C hefyd nodi bod cytundebau gyda chwmnïau allanol yn fater o sensitifrwydd masnachol ac ni allwn drafod manylion cytundebau penodol.”

Stori’r cwmni ymchwil

Mae cwmni SPA Future Thinking o Buckinghamshire wedi ymchwilio i’r hyn aeth o’i le yng Nghaernarfon, ac wedi ymddiheuro i S4C.

“Yn anffodus, yn yr achos penodol hwn, fe wnaeth un o’n cyfwelwyr Cymraeg eu hiaith gysylltu i ddweud ei bod yn sâl gan adael cyfwelydd di-Gymraeg i wneud y gwaith yn ei lle,” meddai llefarydd y cwmni.

“Yn amlwg, doedd hynny ddim yn dderbyniol ac rydym wedi ymddiheuro i’r cleient. Ein polisi ni, gyda chydsyniad S4C, yw defnyddio cyfwelwyr Cymraeg eu hiaith bob amser er mwyn sicrhau bod gan ein hymatebwyr y dewis o gwblhau unrhyw ymchwil yn Gymraeg neu’n Saesneg. Rydym yn cydweithio’n agos gyda S4C i fynd i waelod y mater hwn ac o hyn ymlaen bydd SPA Future Thinking yn defnyddio cyfwelwyr Cymraeg yn unig i wneud gwaith maes.”