Llandeilo
Mae dwy ŵyl Nadoligaidd yn Sir Gaerfyrddin wedi eu beirniadu am beidio â chynnwys digon o’r iaith Gymraeg.

Fe gynhaliwyd Gŵyl Nadolig y Synhwyrau yn Llandeilo’r penwythnos diwethaf, a’r penwythnos yma mae Gŵyl Wonders of Christmas yn cael ei chynnal yn Rhydaman.

Yn ôl un perchennog busnes yng Nghaerfyrddin does dim digon o ddwyieithrwydd wedi bod yn y ddwy ŵyl – ac mae Menter Iaith Bro Dinefwr yn dweud eu bod eisoes wedi codi’r pryderon â threfnwyr yr ŵyl  yn Rhydaman.

Ond gwrthod y cyhuddiadau hynny wnaeth un o drefnwyr Gŵyl Nadolig y Synhwyrau yn Llandeilo, gan ddweud eu bod wedi gwneud popeth y gallen nhw yn Gymraeg

‘Profiad diflas’


Yr arwyddion uniaith Saesneg a welodd Llio Davies yn Llandeilo
Dywedodd Llio Davies, sydd yn rhedeg Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, ei bod hi wedi ymweld â’r ŵyl yn Llandeilo dros y penwythnos a’i bod hi’n siomedig â’r diffyg Cymraeg yno.

“Roedd yna lot o stondinau symudol wedi’u codi, a dim un wedi gwneud unrhyw fath o ymdrech i roi unrhyw fath o Gymraeg,” meddai Llio Davies wrth golwg360. “Roedd yr ŵyl jyst yn rhoi rhyw tokenism i’r Gymraeg.

“Roedd yna adloniant dydd Sul yn y dref, ac roedd yr holl gyflwyno’n cael ei wneud yn Saesneg – pe baen nhw wedi gofyn i Gymry Cymraeg ddod i helpu nhw i wneud o dw i’n siŵr bysa digon wedi dod ymlaen.”

Mae hi’n poeni y bydd yr un peth yn wir am yr ŵyl yn Rhydaman y penwythnos hwn gan fod y rhan fwyaf o’u negeseuon ar Facebook yn uniaith Saesneg.

“Roedd eu rhaglen nhw yn uniaith Saesneg, dim ond rhyw dri gair o Gymraeg,” meddai Llio Davies.

“Mae’n warthus, ti’n mynd i’r dre fan hyn a Chymraeg ti’n clywed drwy’r dydd, dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.”

Mynnodd bod cyfrifoldeb ar y trefnwyr a’r cynghorau sydd yn rhoi nawdd i’r gwyliau i sicrhau bod y digwyddiadau yn ddwyieithog.

“Mae’n beth deuffordd, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb ac mae’n bwysig eu bod nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn gyfartal,” ychwanegodd Llio Davies.

“Mae o’n brofiad diflas i fynd iddyn nhw a theimlo’ch bod chi’n ganol Lloegr o ran arwyddion ac yn y blaen.”

Menter Iaith yn cytuno

Dywedodd llefarydd ar ran y fenter iaith leol ei fod yn falch bod pobl wedi codi pryderon ynglŷn â’r diffyg Cymraeg yn y gwyliau.

“Rydym ni wedi cwrdd â’r trefnwyr a dweud bod angen iddo fe fod yn adlewyrchiad o’n cymuned ni – fel Menter, ni’n ceisio Cymreigio’r peth,” meddai Owain Glenister o Fenter Bro Dinefwr.

“Dyle’r bobl sydd wedi cwyno gael eu canmol am dynnu sylw ato fe.

“Fi’n credu bod angen gwella fe [y ddarpariaeth Gymraeg], yn sicr – rhaid cofio mai gwirfoddolwyr sydd yn trefnu lot o’r stwff.”

Mae hefyd yn cytuno â Llio Davies bod angen i gyrff sydd yn rhoi nawdd i’r gwyliau hyn, gan gynnwys y cynghorau, gymryd cyfrifoldeb dros Gymreigio’r gwyliau.

“Rwy’n credu bod dyletswydd ar bawb, os chi wir moyn gweld gweithgareddau dwyieithog go iawn fi’n credu bod angen i bawb dynnu yn yr un ffordd,” ychwanegodd Owain Glenister.

Cyngor yn cynnig helpu

Ar ôl i bobl gwyno am negeseuon a phosteri uniaith Saesneg ar dudalen Facebook Wonders of Christmas Rhydaman, fe bostiodd y trefnwyr neges yn dweud mai cyfyngiadau ariannol oedd ar fai am nad oedd y deunydd wedi ei gyfieithu.

Siambr Fasnach Rhydaman sydd wedi bod yn gyfrifol am gyhoeddiadau’r ŵyl Wonders of Christmas, yn ôl un swyddog o Gyngor Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y dudalen Facebook.

“O ran y posteri, y Siambr Fasnach sydd wedi gwneud y rheina i gyd, felly dyna pam maen nhw’n uniaith Saesneg yn anffodus,” meddai Hywel Davies, un o swyddogion datblygu twristiaeth y cyngor sydd wedi bod yn cynorthwyo â threfniadau’r ŵyl.

“Beth fydd rhaid i ni wneud fel cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yw helpu nhw i wneud siŵr bod rhagor o Gymraeg ar y posteri ac yn y blaen – dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fod yn gwneud hyn.”

Fe gadarnhaodd Hywel Davies hefyd bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhoi rhywfaint o nawdd – ychydig dros £1,000, yn ôl ef – tuag at gynnal yr ŵyl yn Rhydaman.

‘Angen mwy o wirfoddolwyr’

Fe wfftiodd Tracey Kindred, un o drefnwyr yr ŵyl yn Llandeilo, yr honiadau nad oedd cyhoeddiadau ac arwyddion Cymraeg i’w cael yn eu gŵyl nhw.

Roedd Gŵyl y Synhwyrau yn derbyn grant bychan gan Gyngor Tref Llandeilo, meddai, ond dim ond cynorthwyo gyda threfniadau’r ŵyl oedd Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Ac fe fynnodd y byddai pobl wedi gweld a chlywed rhagor o Gymraeg yn yr ŵyl petai mwy o Gymry Cymraeg wedi gwirfoddoli.

“Roedd yr arwyddion ar gyfer yr ŵyl i gyd yn ddwyieithog, ac fe wnaethon ni’n siŵr bod 50% o’r gwirfoddolwyr oedd gyda ni’n gweithio ar y diwrnod yn siarad Cymraeg,” meddai Tracey Kindred wrth golwg360.

“Fe wnaethon ni e’ mor ddwyieithog â phosib o fewn y gyllideb gyfyngedig oedd gennym ni – weithiau mae’n anodd cael gafael ar y gwirfoddolwyr gyda’r sgiliau angenrheidiol sydd hefyd yn siarad Cymraeg.

“Bydden ni’n ddigon hapus i gael gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg y flwyddyn nesaf os ydyn nhw eisiau dod ymlaen.

“Mae’n ŵyl nid yn unig i Landeilo ond i ardal ehangach. Roedd gennym ni siaradwyr Almaeneg ac Eidaleg yn yr ŵyl, wnaethon nhw ddim cwyno nad oedd pethau yn eu hieithoedd nhw.”