Peter Hain
Mae disgwyl i Peter Hain ddweud wrth ASau ei fod yn gobeithio y bydd ymchwiliad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ceisio ateb rhoi o’r cwestiynau sydd heb eu hateb ynglŷn â thrychineb glofa’r Gleision.

Fe fydd AS Llafur Castell nedd yn annerch Tŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach prynhawn ma ynglŷn â’r trychineb yn 2011.

Bu farw Philip Hill, 44, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, ar ôl i 650,000 o alwyni o ddŵr lifo i mewn i’r pwll yng Nghwm Tawe yn dilyn ffrwydrad.

Cafwyd rheolwr y pwll Malcolm Fyfield, a lwyddodd i oroesi’r digwyddiad, a pherchnogion y pwll MNS Mining Cyf, yn ddieuog o gyhuddiad o ddynladdiad yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach eleni.

Tra bod yr ymchwiliad troseddol i’r drasiedi bellach wedi ei gwblhau, nid yw’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cwblhau eu hymchwiliad nhw.

‘Cyfiawnder’

Fe fydd cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain yn dweud wrth Aelodau Seneddol prynhawn ma bod cwestiynau pwysig eto i’w hateb ynglŷn â’r digwyddiad.

Mae disgwyl iddo ddweud bod teuluoedd y glowyr eisiau cyfiawnder “ond nad ydyn nhw wedi cael hynny hyd yn hyn.”

Ychwanegodd: “Yn ei lythyr ym mis Ionawr 2012 cefais sicrhad gan yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai gwersi yn cael eu dysgu o ddamwain y Gleision.

“Rydym yn aros am adroddiad yr HSE ac rwy’n cymryd na fydd yn cael ei gyfyngu gan ddyfarniad yr achos.
“Ni ddylai trasiedi’r Gleision fod wedi digwydd.”