Fe fydd pwyllgor trawsbleidiol yn cael ei sefydlu gan weinidogion y Cynulliad i ystyried y posibilrwydd o wahardd rhieni rhag taro eu plant.

Yn dilyn pleidlais yn y Senedd neithiwr, lle’r oedd 32 Aelod Cynulliad o blaid y syniad a 21 yn erbyn, bydd y pwyllgor yn cael ei ffurfio o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd y pwyllgor yn ffordd o “annog trafodaeth gyhoeddus ar y mater.”

Ond mae rhai ACau wedi lleisio pryderon nad yw’r pwyllgor yn ddim mwy na ffordd o arafu’r gwaharddiad rhag cael ei gyflwyno.

Ni fydd newid yn y gyfraith ar daro plant cyn etholiad 2016.

‘Neges glir’

Dywedodd Jocelyn Davies AC, llefarydd Plaid Cymru ar fenywod a phlant, sydd o blaid y gwaharddiad:
“Byddai newid y gyfraith yn anfon neges glir, nid yn unig at rieni, ond hefyd at weithwyr cymdeithasol, meddygon, athrawon, yr heddlu, hyd yn oed i gymdogion ac eraill a all gamu i mewn i sefyllfa lle gallai plentyn fod mewn perygl: nid yw taro plentyn yn dderbyniol.”

“Cefnogir gwaharddiad ar smacio gan dros 130 o fudiadau yng Nghymru ac y mae cefnogaeth eang yn y Cynulliad Cenedlaethol gan aelodau o bob plaid.

“Nid yw newid y gyfraith ar gosbi plant yn gorfforol yn fater o farnu’r rhai oedd wedi smacio eu plant yn y gorffennol, ond am gael ein cymdeithas i weithio er mwyn gwella fel bod gan bob cenhedlaeth o blant fywyd gwell na’r un flaenorol.”

Mae trafodaethau ar wahardd taro plant wedi bod yn cael eu cynnal dros y 10 mlynedd ddiwethaf pan wnaeth ACau bleidleisio o blaid y gwaharddiad am y tro cyntaf yn 2004.