Ap Magi Ann
Mae Menter Iaith Sir y Fflint wedi cyflwyno pedwar ap newydd, sydd ar gael am ddim, er mwyn helpu plant cynradd i ddysgu darllen trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae straeon Magi Ann, Pero, Tedi, Doli a Dicw yn wedi eu cyflwyno ar ffurf ap lliw, wedi’i animeiddio ac yn cael eu hanelu at blant sydd eisoes yn siarad Cymraeg, plant sy’n dysgu Cymraeg a hefyd at rieni ac athrawon di-Gymraeg.

Gall blant ddarllen y storïau ar eu pennau eu hunain, neu wrando ar leisiau yn adrodd y straeon, yn ôl Menter Iaith Sir y Fflint.

Ar gyfer yr oedolion, mae cyfieithiad o’r brawddegau ar gael neu fotwm sy’n cynnig opsiwn i glywed sut i ynganu geiriau penodol.

Cyn diwedd yr wythnos bydd ap Magi Ann ar gael am ddim i holl blant Cymru i’w lawr lwytho o’r AppStore ac o’r PlayStore, a gweddill yr apiau ar gael o fewn yr wythnos nesaf.

Lansiad

Yr wythnos diwethaf, cafodd noson ei chynnal i lansio’r apiau yn Llyfrgell yr Wyddgrug, gyda’r ystafell dan ei sang o rieni, plant ac athrawon ar draws Sir y Fflint.

Meddai Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Sir y Fflint: “Rydym mor falch i allu lansio’r adnodd gwych yma a fydd yn gymorth i blant, teuluoedd ac ysgolion i annog plant i ddarllen trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Hoffem fynegi ein diolch i Athrawon Ymgynghorol Y Gymraeg Sir Ddinbych am ganiatâd i ddatblygu’r llyfrau, a hefyd, diolch arbennig i awdures y llyfrau gwreiddiol, Mena Evans am eu holl waith caled ar y prosiect. Heb eu dychymyg lliwgar hi, fyddai’r prosiect erioed wedi gweld golau dydd.”

Ychwanegodd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i recordio’r troslais ar gyfer yr apiau, ac i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect i ddod a Magi Ann i’r unfed ganrif ar hugain.”