Vaughan Gething
Roedd nifer y bobol yng Nghymru fu farw o ganlyniad i strôc rhwng 2010 a 2012 bron ddwywaith yn llai nag yn 2002 a 2004, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei ail adroddiad ar strôc sy’n amlygu’r cynnydd a wnaed yn erbyn cynllun Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc dros y 12 mis diwethaf, a’r meysydd sydd angen eu gwella yn y dyfodol.

Yn dilyn canser, strôc yw un o brif achosion marwolaethau yng Nghymru. Bydd tua 6,000 o bobol yn dioddef o’r cyflwr bob blwyddyn ac o’r rheini bydd tua thraean ohonynt yn marw.

Mae dros 65,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag effeithiau strôc.

Prif ganfyddiadau’r adroddiad diweddar yw:

• Ar y cyfan, rhwng 2007-08 a 2013-14, fe wnaeth 552 yn fwy o bobol oroesi strôc
• Cafwyd gostyngiad o fwy na 1,000 yn nifer y derbyniadau brys ar gyfer strôc ers 2010-11, sy’n ostyngiad o 22%;
• Y gyfradd oroesi o fewn 30 diwrnod i dderbyn cleifion i’r ysbyty ar gyfer pobl 74 oed ac iau sydd wedi cael strôc yw 91.3%, sy’n 1.8% yn uwch nag ydoedd yn 2012-13. Gwelwyd hefyd gynnydd bach o 0.5% ymhlith pobl 75 oed a throsodd, sef 77.6%;
• Mae canran y cleifion sy’n cael thrombolysis o fewn awr i gyrraedd yr ysbyty wedi codi o 17% yn 2012-13 i 26% yn 2013-14.

Teyrnged i’r staff

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething bod “cynnydd da” yn y gwasanaethau strôc yn deyrnged i staff y Gwasanaeth Iechyd:

“Rwy’n falch bod cynnydd da yn cael ei wneud i wella gwasanaethau strôc yng Nghymru.

“Mae’r cynnydd hwn yn deyrnged i’r staff ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi cleifion a gofalwyr yn ystod cyfnod anodd.

“Fodd bynnag, mae nifer o feysydd lle y bu cynnydd yn fwy o her ac mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau cynnydd cynaliadwy.”

Yn ôl Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru, bydd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn gwella’r gwasanaeth i bobol o bob cefndir:

“Rydym yn benderfynol o weld gwelliant parhaus mewn gwasanaethau er mwyn i ni allu sicrhau y bydd pobol o bob oedran, ni waeth ble y maent yn byw na beth fo’u hamgylchiadau, yn gallu cael gofal strôc ardderchog gan y GIG.

“Mae’r grŵp gweithredu strôc wedi cytuno ar dair blaenoriaeth genedlaethol y disgwylir gweld cynnydd amlwg yn eu herbyn, sef nodi a rheoli ffibriliad atrïaidd, ad-drefnu gwasanaethau strôc, gan gynnwys datblygu gwasanaethau hyperacíwt, ac adsefydlu cymunedol.”