RSS

Golwg360

MwyCau 

Bardd Plant Cymru i ffarwelio â Heno

Tachwedd 21, 2014 15:10 Diweddarwyd am 15:11


Aneirin Karadog
Mae’r bardd Aneirin Karadog wedi cadarnhau wrth
golwg360 y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn cyflwyno rhaglen gylchgrawn Heno ar S4C.

Dywedodd y cyflwynydd ei fod yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar ei waith yn Fardd Plant Cymru, ac ymgymryd â phrosiectau llenyddol eraill.

Ar ôl treulio naw mlynedd a hanner yn gweithio ar raglenni gyda chwmni cynhyrchu teledu Tinopolis yn Llanelli, fe fydd Aneirin Karadog yn ymddangos ar Heno am y tro olaf ar y degfed o Ragfyr.

Bardd a rapar

Enillodd Aneirin Karadog Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, O Annwn i Geltia, yn 2012.

Hefyd bu’n aelod o’r Genod Droog a’r Diwygiad, ac mae wedi rapio gyda Llwybr Llaethog a Cofi Bach a Tew Shady.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.