Y tair nofel
Wrth i gyfnod y Nadolig agosáu, a phobl yn dechrau meddwl am anrhegion i lenwi’r hosan, mae tri awdur wedi penderfynu lansio’u nofelau ar y cyd.

Bydd Manon Steffan Ros, Jerry Hunter a Sion Hughes i gyd yn cyflwyno cyfrolau newydd mewn noson yn y Galeri, Caernarfon nos Wener.

Yn y lansiad fe fydd yr actores Ffion Dafis yn holi’r tri am eu nofelau, gyda’r actor Huw Garmon hefyd yno yn cynnal darlleniadau.

Nofel i oedolion yw Llanw gan Manon Steffan Ros, sydd yn dilyn o lwyddiant Blasu a gyrhaeddodd frig y categori ffuglen yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013.

Bydd cyhoeddi Y Fro Dywyll yn benllanw ar flwyddyn brysur i Jerry Hunter, yr Athro o Brifysgol Bangor a lansiodd y nofel anarferol Ebargofiant yn gynharach eleni.

Nofel gyntaf yr ymgynghorydd cyfreithiol Sion Hughes fydd Llythyrau yn y Llwch, a gafodd ganmoliaeth gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

Union 30 mlynedd yn ôl, fel enillodd tad Sion Hughes, R. Cyril Hughes, y wobr honno am ei nofel hanesyddol Castell Cyfaddawd.

Mae’r nofelau’n cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa.