Robert Stuart
Clywodd cwest i farwolaeth dau ddyn, fu farw ar ôl derbyn trawsblaniad organ oedd wedi ei heintio, fod nifer o ysbytai eraill wedi gwrthod arennau’r rhoddwr oherwydd eu bod yn “anaddas”.

Bu farw Robert Stuart, 67, o Gaerdydd, a Darren Hughes, 42, o Ben-y-bont ar Ogwr, y llynedd ar ôl cael trawsblaniad yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd pan roddwyd arennau wedi’u heintio â mwydyn parasitig o’r enw halicephalobus iddyn nhw.

Datgelodd archwiliadau post-mortem fod gan y ddau ddyn y parasit yn eu cyrff a chlywodd Llys y Crwner Caerdydd heddiw mai dim ond pum achos sydd wedi bod ledled y byd o’r parasit yn byw mewn pobl – ac roedd pob un wedi bod yn angheuol.

Bu farw Robert Stuart a Darren Hughes o meningoencephalitis – math o lid yr ymennydd a achosir gan y parasit.

Clywodd y gwrandawiad gan deulu’r ddau ddyn nad oedden nhw wedi cael gwybod bod organau’r rhoddwr wedi cael eu gwrthod gan nifer o ysbytai eraill ar ôl cael eu hystyried yn “anaddas i’w trawsblannu”.

Dywedodd tad Darren Hughes, Ian, wrth y gwrandawiad na fyddai wedi llofnodi’r ffurflen ganiatâd ar ran ei fab anabl petai’n gwybod fod yr aren wedi dod gan alcoholig.

Meddai Ian Hughes: “Yn y pen draw, fe wnes i arwyddo gwarant marwolaeth Darren.

“Roeddwn i’n meddwl bod y rhoddwr yn berson a fu farw mewn damwain car yn lleol.

“Os fyswn i wedi gwybod am ei ffordd o fyw, ni fyswn i wedi llofnodi’r ffurflen ganiatâd.”

Mae’r cwest yn parhau.