Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am lygad dystion yn dilyn damwain ffordd ddifrifol ger Wrecsam y bore ma, pan gafodd seiclwr ei anafu’n ddifrifol.

Bu gwrthdrawiad rhwng fan wen Ford Transit a beic ar Ffordd Wrecsam, Rhostyllen toc wedi 5:00 y bore.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaethau brys eraill ar y safle ac mae’r heddlu yn cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal tra bo gwasanaethau brys yn parhau i fod yno.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Darren Wareing: “O ganlyniad i’r ddamwain, mae’r seiclwr, dyn lleol, yn yr ysbyty yn dioddef o anafiadau difrifol sydd ddim yn bygwth bywyd.”

Bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’r digwyddiad ac mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn yr ardal ar adeg y ddamwain i gysylltu ag uned heddlu Glannau Dyfrdwy ar 101.