Fe fydd cyfle i bobol wersylla mewn pebyll moethus – ‘glampio’ – am y tro cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.

Bydd cwmni gwyliau Y Gorau o Gymru yn cynnig llety mewn sawl ti-pi moethus i bedwar person, wedi ei leoli mewn cae yn union drws nesaf i faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.

£750 fydd cost un babell am saith noson.

Yno hefyd bydd dodrefn fel gwlâu gwynt, byrddau a charpedi cyfforddus, gyda chyfleusterau coginio ar y safle, cawodydd moethus a thoiledau. Bydd plygiau trydan yno hefyd.

“Bydd gwersyll Eisteddfod Y Gorau o Gymru wedi ei leoli mewn cae yn union drws nesaf i faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015, ac felly mae’n opsiwn gwych ar gyfer llety,” meddai llefarydd y cwmni.