Emyr Huws
Mae chwaraewr canol cae Cymru Emyr Huws wedi mynnu y bydd y pwysau i gyd ar eu gwrthwynebwyr dydd Sul pan fyddan nhw’n herio Gwlad Belg yng ngêm ragbrofol Ewro 2016.

Huws yw un o’r chwaraewyr sydd wedi dychwelyd i’r garfan ar gyfer y trip i Frwsel, ar ôl methu’r ddwy gêm ryngwladol ddiwethaf gydag anaf i’w bigwrn.

Yn y ddwy gêm hynny llwyddodd Cymru i gael gêm gyfartal yn erbyn Bosnia cyn trechu Cyprus, canlyniadau sydd wedi’u codi i frig eu grŵp rhagbrofol.

Ond y gêm ddydd Sul yn Stadiwm Roi Badouin fydd un galetaf Cymru hyd yn hyn, gan fod Gwlad Belg yn cael eu hystyried yn un o dimau gorau Ewrop.

Gobeithio am ganlyniad

Wrth sgwrsio â golwg360 heddiw, fodd bynnag, fe fynnodd chwaraewr canol cae Wigan bod hynny’n golygu mai’r tîm cartref, ac nid Cymru, fyddai yn teimlo’r pwysau.

“Ni’n top o’r grŵp ond sa i’n credu mae lot i ni golli, achos maen nhw mor gryf â fi’n credu maen nhw’n bedwerydd yn y byd [ar restr detholion FIFA],” meddai Emyr Huws.

“Felly does dim pressure arnon ni, ac mae’n rhaid i ni jyst mynd yna a chwarae’n gêm ni, edrych ar ôl chwaraewyr nhw fel [Eden] Hazard a gobeithio cael canlyniad positif.”

Ac fe ddywedodd y chwaraewr 20 oed bod neb yn y garfan wedi’u synnu gyda dechrau da Cymru i’r ymgyrch.

“Sa i’n gwybod pa expectations oedd pawb arall yn cael, ond ni fel tîm yn gwybod mor dda ni’n gallu bod, a ni gyd yn teimlo ein bod ni’n gallu mynd yr holl ffordd,” ychwanegodd.

Gwyliwch gyfweliad llawn Emyr Huws â gohebydd golwg360 Iolo Cheung yma: