Nigel Owens
Mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi dweud wrth Golwg360 y gallai cefnogwyr rygbi helpu i ddileu homoffobia o’r gêm trwy adrodd am sylwadau sarhaus yn ystod gemau.

Roedd yn ymateb i lythyr a gafodd ei anfon i’r Guardian gan gefnogwr yn dilyn yr ornest rhwng Lloegr a Seland Newydd yn Twickenham ddydd Sadwrn, oedd yn honni ei fod e wedi clywed sylwadau sarhaus am y dyfarnwr ar sail ei rywioldeb.

Mae’r RFU, y corff sy’n rheoli rygbi yn Lloegr, yn cynnal ymchwiliad.

Er nad oedd Nigel Owens ei hun wedi clywed y sylwadau, dywedodd nad dyma’r tro cyntaf i sylwadau sarhaus gael ei anelu ato tra fu’n dyfarnu.

‘Cyfrifoldeb’

“Mae teulu a ffrindie wedi gweud wrtha i bo nhw ’di clywed sylwadau’n cael eu gwneud o’r blaen.”

Dywed y dyfarnwr fod gan y dorf gyfrifoldeb i roi gwybod i’r awdurdodau os ydyn nhw’n dyst i sylwadau sarhaus o unrhyw fath yn ystod gemau.

“Os yw pobol yn gweld bod problem, yna gallen nhw wneud rhywbeth am y peth.

“Fel y dyn anfonodd y llythyr i’r papur newydd, mae angen i’r dorf dynnu sylw’r stiwardiaid at sylwadau.”

Ychwanegodd y dyfarnwr fod angen addysgu plant hefyd fel bod modd dileu homoffobia o’r byd rygbi yn y dyfodol.

“Mae angen arwyddion a phosteri a’r math yna o beth a dw i’n credu bydde hynny’n help mawr. Mae angen addysg ar blant hefyd.”