John Eifion
Ar drothwy’r Ŵyl Cerdd Dant yfory yn Rhosllannerchrugog, mae’r darpar drefnydd newydd wedi dweud wrth gylchgrawn
Golwg bod angen mwy o sylw i gerdd dant – a hynny gydol y flwyddyn.

Bydd yr Ŵyl yn cael ei dangos yn fyw ar wefan ar S4C yfory rhwng hanner dydd a saith y nos, ac yna bydd rhaglen ar y teledu am wyth.

Ond mae John Eifion yn dweud bod angen i gerdd dant fod yn bresenoldeb cyson ar donfeddi a sgriniau’r genedl.

“Does yna ddim byd yr un fath ag o,” meddai’r canwr adnabyddus fydd yn ymgymryd â gwaith y trefnydd fis Ionawr.

“Ydi, mae’n cael ei diwrnod bob blwyddyn ar y cyfryngau ond mae’n destun syndod weithiau pam nad oes mwy o sylw yn cael ei roi i rywbeth sy’n hollol unigryw i ni fel cenedl.

“Mae rhyw deimlad gen i ein bod ni’n tueddu i feddwl – ‘o mi wnaiff o’n iawn yng nghanol mis Tachwedd, a dyna fo’,”

Cyfweliad llawn gyda John Eifion yng nghylchgrawn Golwg