Mae gweithwyr o ganolfan alwadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael dirwyon am fynd i’r tŷ bach yn ystod oriau gwaith, er eu bod yn cael eu hannog i yfed dŵr yn gyson gan y cwmni, yn ôl un AS o’r ardal.

Fe wnaeth Madeleine Moon grybwyll y mater yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw yn dilyn cwyn gan un o’i hetholwyr ei fod wedi cael £50 yn llai o gyflog y mis diwethaf am iddo fynd i’r tŷ bach yn ystod oriau gwaith.

Dywedodd yr AS bod staff o’r ganolfan alwadau Solution Marketing yn cael dirwyon am gymryd egwyl i fynd i’r tŷ bach – er eu bod yn cael “cyflenwad cyson o ddŵr” gan y cwmni i geisio sicrhau nad ydyn nhw’n dioddef o syched am eu bod yn siarad â chwsmeriaid ar y ffôn trwy’r dydd.

Gofynnodd Madeleine Moon am gael dadl ar “dreth tŷ bach” ond er bod Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, William Hague, wedi cydnabod y cynnig, dywedodd ei fod yn fater i Madeleine Moon ei hun ddelio ag o gan nad oedd y broblem yn un cyffredinol.

Nid oes cyfraith benodol sy’n rhwystro cyflogwyr rhag dirwyo gweithwyr am fynd i’r tŷ bach ond mae undeb Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) wedi ymgyrchu yn y gorffennol tros ei newid.

‘Annerbyniol’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Madeleine Moon fod y sefyllfa yn “gwbl annerbyniol”:

“Rwyf wedi ysgrifennu at y cwmni yn gofyn sut maen nhw’n medru cyfiawnhau hyn a pha waith ymchwil sydd wedi ei wneud er mwyn sicrhau nad oes gan y staff unrhyw gyflyrau meddygol fyddai’n gwneud iddyn nhw fynd i’r tŷ bach yn amlach.

“Mae hi’n gwbl annerbyniol bod gweithwyr yn gorfod talu dirwyon am rywbeth mor syml ac angenrheidiol a mynd i’r toiled yn y gwaith.

“Rwyf wedi mynegi pryder gydag Arweinydd y Tŷ, ond ar ôl methu a llwyddo i gael dadl ar y mater mi fyddaf yn parhau i frwydro drosto fy hun.”

Roedd y dyn ddaeth a’r mater i sylw Madeleine Moon yn gwrthod gwneud sylw.

Mae golwg 360 wedi gofyn am ymateb gan ganolfan alwadau Solution Marketing.